Dewiswch lythyren

N

n' = na, ne (geir. neg. o flaen llaf.) nid; nad

n’en doa ket amzer ’doedd gydag e /ganddo fo ddim amser

n'eus hini ebet er burev 'does neb yn y swyddf na1 rhage. perth. neg. na

na2(d) geir. gorch. neg. na

n. gomz ket ken kreñv! paid â siarad mor uchel!

n. lazh ket! na ladd! paid â lladd!

na3(g)! ebych. dyna!

n. brav eo an amzer! (dy)na braf yw hi!

na4(g) cys. neg. na(c)

na(g) ... na(g) ... na(c) ... na(c) ..., nid ... na(c) ... , - ... na(c) ...

na fall na mat na drwg na da, heb fod yn ddrwg nac yn dda

n. kar n. par na châr na chyfaill

na5(g)? cys. a beth am?

n. ar match a-enep Gwengamp? a beth am y gêm yn erbyn Gwengamp?

nac’h1(añ) be.gwrthod; gomedd, gwarafun; ’cau/ nacáu, pallu; diarddel; gwadu

n. a ra mont (am beiriant) mae’n gwrthod/pallu dechrau/mynd, mae’n ’cau cychwyn, mae wedi nogio, mae ar stop

n. groñs/a-grenn gwrthod yn grwn/ lân/bendant/bendifaddau

n. ar wirionez gwadu’r gwirionedd

n. Jezuz gwadu Iesu

n. ober udb. gwrthod/pallu/’cau gwneud rhth

n. ouzh Doue ar pezh a oar ar Werc’hez/sent gwadu’r gwir a thyngu’r celwydd, tyngu du yn wyn, gwadu rhth hysbys i bawb

n. udb. ouzh ub. gwrthod rhth i rn

n. ur gouviadenn gwrthod gwahoddiad

ne c’hellan ket n. seurt traoù ouzhoc’h ’alla’ i ddim gwrthod hynny / pethau fel yna / pethau o’r fath i chi

an neb a nac’h war al laer a zo ken fall hag eñ mae’r sawl sy’n cynnal breichiau lleid(i)r lawn mor euog ag yntau

ger(ig)-n. negydd

nac’h2 g. gwrthodiad, nacâd; negydd, negyddol (gram.)

hep n. heb nacâd, heb ei (g)wrthod/ (g)warafun

ar stumm n. (gram.) y ffurf negyddol

nac’her g. -ien gwadwr

n.- Doue anghredadun, anffyddiwr

nac’het abf nac’h qv.

n. vo dit mont e-barzh/tre ’chei di ddim mynediad, ’chei di ddim mynd i mewn

nac’hus a. negyddol

un emzalc’h n. e-keñver forzh petra agwedd negyddol tuag at bob peth / tuag at ni waeth beth

nad geir. gorch. neg. (o flaen llaf.)

n. it ket re vuan! paid â mynd yn rhy gyflym/glou!

nadir g. isafbwynt

nadoz b. -ioù nodwydd; (cloc, tafol, ayyb.) bys

un n. d’ober stamm, n.-stamm gwäell

n.-aer gwas y neid(i)r

n.-avel ceiliog y gwynt

n.-vor cwmpawd

nadozenn b. -où bys cloc/wats

n. an eurioù bys yr awr, y bys bach/byr

n. ar munutoù bys y munudau, y bys mawr/hir

nadozioù torf. (bot.) mynawyd y bugail

naer b. -ed, -on neid(i)r, sarff

n. galet neid(i)r ddefaid/ddall

bezañ didrouz evel un n. bod mor dawel â llygoden (eglwys); ’d yw neid(i)r byth yn cyfarth

fritañ naered e-lec’h silioù da ub. taflu/tawlu ll(u)wch i lygaid rhn, twyllo rhn

gwevn evel un n. ystwyth fel neidr / fel llysywen, heini iawn

boued-an-n. g., louzaouenn-an-n. b. bot. pidyn/pig y gog, cala mwnci, lili’r Pasg

n.-gobra cobra

n-vro neid(i)r fraith

n.-wiber gwiber

naereta be. hel(a)/lladd nadredd

naet1 a. glân, difrycheulyd, dilychwin, gloyw; di-nam, dibechod; heb ei (l)lygru, pur, coeth

naet2 adf yn lân, yn bur; yn llwyr, yn gyfan gwb(w)l, yn hollol; yn blwmp ac yn blaen

n. a loustoni yn lân/rhydd o lygredd, heb ddim bryntni/budreddi, heb ei (l)lygru

n.-ha-pizh yn gymwys/gywir/union, ar ei ben (ffig.)

war-n. yn llwyr, yn gyfan gwb(w)l, i gyd

naetaat be. glanhau; puro (am y galon); goleuo (am yr awyr / y tywydd)

naetadurezh b. glendid, glanweithdra

e-lec’h ma vank an n. ne chom ket bev ar garantez lle na bo glendid/ glanweithdra ’fydd cariad ddim byw

naetoni b. glendid

naftalin g. naffthalin

nag1! ebych. (o flaen llaf.) (dy)na!

n. aes eo! (dy)na hawdd yw e/hi! am hawdd!

n. a drouz! (dy)na sŵn! am sŵn!

nag2 cys. (o flaen llaf.) na(c)

n. amañ n. ahont (nac) yma nac acw

n. aour n. arc’hant (nac) aur nac arian

nag3? cys. (o flaen llaf.) beth am?

nagenner g. -ien gwrthwynebwr

nagenniñ be. gwrthwynebu; gweld bai, codi/cwnnu crachen (ffig.)

nagont rhif. deg a phedwar ugain

Naïg epb. bachigol < Anna Nani, Nanno

naket adf (y)chwaith

namm g. -où nam; man gwan, gwendid; niwed; brycheuyn, smotyn/sbotyn; gwarthnod, stigma

nammañ be. niweidio, gwneud niwed i

nammet abf. â nam arno/arni; wedi’i niweidio; wedi’i (h)anffurfio; anab(a)l, methedig

ar re n. yr anab(a)l, y rhai anab(a)l/ methedig, y rhai a niweidiwyd/ anffurfiwyd

n. e spered â nam ar ei feddwl/ meddwl

nann! ebych. na!

(ha) dont a raio/ray? (nann) ne deuio/dey/raio/ray ket! (a) ddaw e/ hi? na (wnaiff) ’ddaw e/hi ddim!

la(va)r din ‘ya’ pe ‘nann’ d(y)wed ‘ie’ neu ‘nage’, ateb y naill ffordd neu’r llall

respont dre n. ateb yn nacaol, dweud ‘na!’

nañv : war va/ma n. wrth fy mhwysau, gan bwyll, yn hamddenol

mont da ober n.-n. (iaith plentyn) mynd i gysgu bei(-bei)

nao rhif. gw. nav

naogont rhif. deg a phedwar ugain

naon g. eisiau bwyd, gwylder

n.-bras/-du/-ki en/he deus mae gwylder dychrynllyd/enbyd/ofnadwy arno/arni, mae e/hi ar lwgu, mae o/hi ar ei gythlwng/chythlwng

an hini en deus n. ne sell ket ouzh ar pezh a zreb, biskoazh den gant n. bras tamm bara fall ne gavas i’r newynog mae crwstyn yn wledd, nid edrych newyn y tecaf, mae pob tamaid yn dderbyniol i un ar ei gythlwng, ’fydd dyn ar lwgu ddim yn codi/cwnnu’i drwyn ar ddim,’fydd dyn ar ei gythlwng ddim yn wfftio/gwrthod dim

mervel/kreviñ/mougañ/duañ a ra gant an n. mae’n marw/trengi/llwgu/ clemio o eisiau bwyd

n’em eus ket n. ’does dim chwant/ eisiau bwyd arna’ i

tremen gant e/he n. bod heb gael ei (g)wala / heb ei (d)diwallu / heb gael digon i’w fwyta; (ffig.) marw heb wireddu breuddwyd

Naoned: an Naoned e. lle Nantes (Ffrg.)

naoneg g. naoneien (dyn/un) newynog

naonegezh b. -ioù newyn

naonek a. newynog, yn llwgu, ar lwgu, ar ei gythlwng/chythlwng

bezañ n. da udb. chwennych rhth, dyheu/ysu am rth, marw o eisiau rhth (ffig.), bod ar hollti’i fola/bola o eisiau rhth (ffig.)

naoniañ be. newynu, gadael i lwgu, peidio â bwydo

naontek rhif. gb. pedwar ar bymtheg (g.), pedair ar bymtheg (b.)

n. ha pevar-ugent cant namyn un, naw deg (a) naw

n. kant ha tri-ugent mil naw cant a thrigain, mil naw cant chwe deg

naontekvet trefn. gb. pedwerydd ar bymtheg (g.); pedwaredd ar bymtheg (b.)

naou g. -eier goriwaered, goleddf, lleth(e)r, llechwedd, codiad/cwnnad (mewn ffordd), tyle, rhipyn

n.-dinaou twmpathog, lan a lawr, i fyny ac i waered, yn codi/cwnnu a disgyn (am dir, ffordd)

e-leiz a hentoù n.-dinaou a zo e Kembre mae llawer o ffyrdd lan a lawr yng Nghymru

war-n. ar y goriwaered, ar oleddf

naoz b. -ioù gwely (afon); cwrs (dŵr), cwter, sianel

n. ar vilin dŵr/ffrwd y felin

napalm g. napalm

naren adf (ateb neg.) na, nage, nac ydw, nac oes, nac oedd, ayyb; ddim o gwb(w)l

n’out ket klañv? n.! ’dwyt ti ddim yn sâl/dost? nac ydw! ddim o gwb(w)l!

nasionalist g. -ed cenedlaetholwr

nasionalizañ be. gwladoli

nask g. niskier llyffethair, hual, gefyn

bezañ en n. (ar laf.) bod yn briod

kas ub. d’e n. (ffig.) torri crib rhn (ffig.)

naskañ be. clymu; llyffetheirio, hualu, gefynnu; caethiwo; atal, rhwystro

natur b. natur, anian

dre n. o ran anian; yn reddfol

naturel a. naturiol, heb ei (l)lygru/newid gan ddyn

naturelañ be.

naturoniezh

naturour g. -ien naturiaethwr

naturouriezh

nav/nao rhif. naw

n. c’hant naontek ha pevar ugent naw cant pedwar ar bymtheg a phedwar ugain, naw cant naw deg a naw, mil namyn un

chomet e c’henoù / he genoù digor war n. eur aros yn gegrwth/gegagored

gra n. zro gant an teod ez kenou a-raok komz ystyria dy ymadrodd cyn ei draethu, meddwl ddwywaith cyn dweud/gwneud dim dim

treiñ ha distreiñ udb. war n. du edrych ar rth o sawl cyfeiriad, archwilio rhth yn fanwl

hon n. y naw ohonon ni

nav(v)edenn b. -où nawfed ran; nawfed ton

nav(v)et trefn. nawfed

navigal be. morio, hwylio

nay a. hurt, dwl, twp

sot-n. cwb(w)l hurt, dwl bared, mor dwp â llo/bwced/stên/sledj, twp iawn

Nazaread g. Nasaread

nazi1 a. natsïaidd

nazi2 g. nazied natsi

naziegezh g. natsïaeth

ne(d) geir. neg. ni(d)

ne vern! ebych. ’does dim gwahaniaeth/ ots! paid/peidiwch â phoeni! hitia/ hitiwch befo!

(an) neb rhage. y neb, y sawl, pwy bynnag; pawb

n. a c’houlenn en devezo y sawl a geisia a gaiff, mae pawb sy’n ceisio yn cael

n. a gemer hag a ro a gav mignoned e pep bro caiff y sawl sy’n barod i rannu ffrindiau ym mhob man

n. a gari y sawl a fynni, unrhyw un; pawb

n. a sko war an nor e vezo digoret dezhañ y sawl a gura wrth y drws fe agorir iddo, fe agorir i’r sawl fydd yn curo wrth y drws

n. a venn hennezh a c’hell gw. mennout

an n. ne oar eus a belec’h e teu ne c’hell ket gouzout da belec’h ez a ’all y sawl na ŵyr o ble y daw ddim gwybod i ble yr a / i ble mae’n mynd

(an) n. piv bennak pwy bynnag, y sawl, ’does dim gwahaniaeth pwy, ni waeth pwy

n.-mañ-n. rhywun neu’i gilydd

nebaon! ebych. yn siŵr ei wala! yn bendifaddau! (’does) dim peryg! 'does dim eisiau ofni/poeni! ’does dim gobaith! dim o gwb(w)l! dim ffiars o beryg’ (ar laf.)! byth tragwyddol!

dont a raio/ray n.! mae’n siŵr/saff o ddod!

kae di n.! cer yno’n ewn! cer/dos yno heb boeni/bryderu/ofni dim!

nebeud g. -où ychydig

n. a ra vad mae ychydig yn llesol; mae hanner torth yn well na dim

an n. am eus zo a-walc’h din mae’r ychydig sy gen i /(gy)da fi yn ddigon i fi/mi

diwar un n. ymhen ychydig, cyn bo hir, maes o law

nebeudad g. -où bripsyn, tamaid bach, yr ychydig lleia’; nifer fach/fechan; ychydig (o ran rhif)

nebeut adf ychydig

blaz ar re n. ’zo gant/war ar c’hig braidd/hytrach yn brin mae’r cig

evit ken n. (a dra) am gyn lleied (o beth)

re n. rhy fach, rhy ychydig

ken gwazh eo re ha re n. mae gormod(d) gynddrwg â rhy ychydig

war-bouez/-hed/-nes n. o fewn dim/ychydig, bron iawn

n.-ha-n. ychydig ar y tro, bob yn dipyn/damaid, fesul tipyn/tamaid, yn raddol; o ergyd i hwb

nebeutaat be. lleihau, mynd yn llai, gostwng (o ran nifer), prinhau

nebeutañ a. lleia’

an n. ar gwellañ gorau po leia’

da/d'an n. o leia’

pa soñjer (an) n. pan na fydd dyn yn disgwyl rhth, pan fydd dyn ymhell o fod yn disgwyl rhth

seul n… seul wellañ po leia’ ... gorau i gyd / gorau oll, gorau po leia’

nebeutoc'h a. llai

neblec'h adf unman

da n. i unman

e n. yn unman

nebreizh a. gw. nepreizh

nebtu a. gw. neptu

nec’h1 g. brig, blaen, top; llofft, i fyny'r grisiau

d'an n. tuag i lan, i fyny; lan (i'r) llofft, i fyny'r grisiau

en n. i fyny; lan lofft, i fyny’r grisiau; ar y brig/top

eus an n. d’an traon o’r llofft i’r llawr, o’r top i’r gwaelod

nec’h2 g., nec'hamant gb. gofid, pryder, trallod; aflonyddwch/anesmwythyd (meddwl), anniddigrwydd; of(o)n

n’eus ket da gaout n.’does dim achos i ofidio/bryderu/ofni, ’does dim eisiau blino/poeni

nec'het abf gofidus, pryderus, trallodus, aflonydd, anesmwyth, anniddig

n. evel sant Per goude/gant e bec’hed yn ’difaru’i (h)enaid, yn ’difaru’i galon/chalon, yn ’difaru gwallt ei ben/phen

bezañ n. poeni, blino, gofidio, pryderu, cael ei fenu/menu

n’on ket n. gant an dra-se ’dwy’ i ddim yn blino/gofidio/poeni/pryderu dim (taten) am hynny, ’dyw hynny’n menu dim arna’ i, ’dydw i ddim yn malio yr un ffeuen / yr un botwm corn am hynny, ’does dim ots o gwb(w)l ’da fi am hynny

na vezañ nec’hetoc’h gant udb. eget gant e votez kentañ heb boeni dim/ taten / botwm corn am rth

n.-krenn/-pizh/-marv yn ofid i gyd, yn llawn gofid

nec'hiñ be. gofidio, poeni, blino (ysbryd), anesmwytho, bod yn anesmwyth, pwyso ar feddwl/galon

nec'hus a. blinderus, gofidus, pryderus

ned geir. neg. ni(d); na(d)

Nedeleg g. Nadolig

N. laouen! Nadolig llawen!

an Tad N., Tad/Paotr-Kozh (an) N. Siôn Corn, Santa

etre deiz kentañ ar bloaz ha N. ec’h astenn an deiz paz ar c’hefeleg rhwng y Nadolig a’r Calan bydd y dydd yn ymestyn cam ceiliog

kelien da N. : skorn da Bask Nadolig gwyrdd : Pasg gwyn, Nadolig glas - Mai cas, haf hyd Nadolig : gaea’ hyd Ŵyl Ifan, haf hyd galan : gaea’ hyd Fai, un got yn y gaea’ : dwy got yn y gwanwyn

kraou N. preseb Nadolig

nederlandeg g. Iseldireg

nederlandek a. iseldiraidd, o’r Iseldiroedd, yn perthyn i’r / yn ymwneud â’r Iseldiroedd

nein g. nenfwd

neizh g. -ioù, -i nyth; (ffig.) cartre’ clyd/ diddos; lloches, cuddfan

lost an n. bach/tin y nyth, y cyw melyn olaf

sevel un n. adeiladu/gwneud nyth, nythu

un n. touseg (ffig.) twll o dŷ, hen dŷ anniddos

pa gavin un n. logod e skouarn ar c’hazh pan fydd yr Wyddfa i gyd yn gaws, pan fydd Nadolig yn yr haf, pan fydd y moch yn hedfan

neizhi ar pokoù panylau, tyllau/ pantiau bach (ar wyneb y cnawd), bochdyllau

neizhioù logod (ffig.) crychau’r talcen

klask neizhioù chwilio am nythod, hel(a) nythod

klask neizhioù pig (ffig.) edrych i’r awyr/entrychion

klask vioù e neizhioù warlene chwilio am eira llynedd

neizheta, neizhiata, neizhiaoua be. chwilio am nythod, hel(a) nythod

neizheur, (en) neizhour adf neithiwr

neizhiad g. -où nythaid

neizhiañ be. nythu, adeiladu/gwneud nyth

neket: ha neket cys. ac nid

neketa? adf onid yw? onid e? yntê?

e-giz-se emañ ar c’hiz n.? dyna’r ffasiwn/arferiad onid e / yntê?

nektar g. neithdar

nemedenn b. -où eithriad

nemedennek a. eithriadol, anghyffredin, anarferol

nemedoc'h; nemedomp; nemedon; nemedout ardd. ffurf bers. 2 un. nemet

piv nemedon? pwy ond fi?

ne oa nemedout en doa respontet ti yn unig (a) atebodd, dim ond ti (a) atebodd

nemet ardd. namyn, ond, ac eithrio, oni bai, os na

n. gevier dim ond celwyddau, celwyddau yn unig - a dim byd arall

digor e vez ar stal bemdez n. d’ar Sul bydd y siop ar agor bob dydd ond / ac eithrio ar y Sul

div eur n. kard chwarter i ddau

dont a rin n. mervel a rafen bydda’ i’n dod os byw ac iach / os Duw a’i myn

kant euro n. pemp cant euro namyn pump

ned a da nep lec’h all nemet da Gafe ar Porzh ’fydd/’dyw e ddim yn mynd i unman arall ond i Gaffe’r Porthladd

Sant Divi ne(d) eve n. dour nid yfai Dewi Sant ddim ond dŵr

nemet e cys. oni, os na, oddi eithr

n. hag eñ e vefe klañv / n. klañv e vefe oni bai ei fod yn sâl/dost

ne fiñvin ket n. e teufe tud symuda’ i ddim oni / os na ddaw pob(o)l

nemet ma cys. onibai

nemetañ; nemeti; nemeto/nemete ardd. nemet

mab nemetañ da Gatell unig fab Katell

merc’h nemeti da Ber unig ferch Per

piv nemetañ? pwy ond fe/fo?

an ostaleri nemeti yr unig westy

nemetken adf yn unig

ur wech n. un waith yn unig, dim ond un waith

nemeur adf nemor ddim, dim llawer, fawr iawn

n. a dud ychydig (o bob(o)l), bach iawn (o bob(o)l), fawr neb, dim llawer (o bob(o)l)

a-barzh/a-benn n. ymhen ychydig, cyn pen dim, cyn pen fawr o dro, chwap, toc

ur Breizhad ar seurt n’eus ket n. Llydäwr na cheir llawer o’i debyg

nemorant g.: an nemorant y gweddill

nend geir bf. neg. ni gw. ne(d)

neñv g. -où nef; nen, awyr

an neñv y nef, nefol

 

neñvel a. nefol

neoazh adf ac/ond eto, eto i gyd, serch hynny, fodd bynnag, siwt

neolitek a. neolithig

neon g. neon

nep a. unrhyw

n. den all (dim) neb arall, dim unrhyw un arall

n. gwech dim un waith, dim un tro, o gwb(w)l, erioed

da n. lec’h i unman, i unlle

da n. mare eus ar bloaz ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, (ni) waeth ar ba adeg o’r flwyddyn

muioc’h eget n. hini all yn fwy na neb arall / nag unrhyw un arall

nepell adf (nid) nepell

nepred/neptro adf (gyda berf neg.) byth, erioed

nepreizh a. diryw (gram.)

neptu(ek) a. amhleidiol, diduedd

nervenn b. -où nerf

an nervennoù y nerfau; nerfol

nervennek, nervus a. ofnus, nerfus

nerzh g. -(i)où nerth, egni, grym, cryfder; gwres (y tân, yr haul, y dydd)

n. an avel cryfder/grym y gwynt

n. an deizh gwres y dydd

n. an taol grym yr ergyd

n. dedennañ an douar grym/nerth disgyrchiant

n. e benn / he fenn, n.-penn nerth ei geg/cheg, nerth/bloedd ei ben/phen, ar dop ei (l)lais

a n. e gorf / he c’horf â’i holl nerth/ egni

redek a n. e gorf / he c’horf rhedeg nerth ei draed/thraed

a n.-korf/-brec’h, diwar holl n. an divrec’h â nerth braich ac ysgwydd, â holl nerth bôn braich, â nerth deng ewin

bezañ erru e penn e n. bod wedi dod i ben ei dennyn; bod wedi llwyr ymlâdd

bezañ war e n. bod wedi ymlâdd, bod wedi blino’n lân/dwll

dre n. drwy rym; drwy drais

mont dre n. defnyddio grym, defnyddio dulliau trais

en un(v)aniezh emañ an n. mewn undod y mae nerth

finesa a zo gwelloc’h eget/evit n., gwelloc’h (eo) ijin eget/evit n. gwell dyfeisgarwch na nerth/grym; oni bydd gryf bydd gyfrwys

laka(a)t e/hec’h holl n. defnyddio’i holl nerth, ymdrechu’n galed/ddiarbed

torret e n. dezhañ wedi colli’i nerth/ rym, wedi chwythu’i blwc; wedi diffygio/ymlâdd

n.-kalon dewrder; penderfyniad

kaout n.-kalon bod yn ddewr

n.-youl grym ewyllys/penderfyniad

(an) nerzhioù armet ll. (y) lluoedd arfog

nerzhañ be. atgyfnerthu, cryfhau; cefnogi, calonogi

nerzhus a. nerthol, egnïol, grymus, cryf

nes a. agos; cyfagos; agosa’

kar-n. perthynas agos

ar re-n. y rhai / y teulu / y perthnasau agos

nes adf yn agos

n.-ha-n. wrth och(o)r ei gilydd, yn ymyl ei gilydd, yn dynn wrth/yn ei gilydd

nesaat be. nesu, dynesu, agosáu

nesañ1 a. gradd eithaf nes qv. nesa’, agosa’

al lec’h n. da’m c’halon y lle agosa’ at fy nghalon

hon amezeg n. ein cymydog agosa’

nesañ2 g. câr; cymydog, cyd-ddyn

karantez evit an n. cariad at gyd-ddyn

nesoc’h a. ac adf gradd gymh. nes qv. nes

n. (eo) an ilin eget/evit an dorn nes (pen)elin nag arddwrn

n. eo d’e/d’he/da hanter-kant vloaz eget d’e/d’he/da zaou-ugent vloaz mae’n nes i’w hanner cant oed nag i ddeugain oed

netra g. dim; dim o beth, peth bach

n. a-bouez dim (byd) o bwys

n da baeañ evit mont tre/e-barzh mynediad am ddim / yn rhad

n. ebet dim byd, dim o gwb(w)l, dim yw dim, dim oll, affliw o ddim

n. ispisial dim byd arbennig/neilltuol

aet da n. wedi mynd yn ddim, wedi diflannu

evit n. am ddim, yn ddi-dâl, yn rhad

evit n. koulz la(va)ret am y nesa’ peth i ddim

diwar n. (allan/mas) o ddim

gant n. ne reer n./tra o ddim dim ni ddaw (fe wnewch chi beth o rth), ’wnewch chi ddim o ddim, rhaid cael lliw cyn llifo, anodd cynnau tân heb goed, anodd pobi heb flawd

kas da n. dileu, diddymu, dinistrio’n llwyr, chwalu’n ddim

kozh n.! yr hen beth da i ddim! y llwd(w)n diwerth! (wrth ddirmygu rhn)

ne la(va)r n. din, ne dalv n. din ’dyw’n golygu dim i fi/mi

ne ra n. din ’d yw e’n menu dim arna’ i, (ni) waeth gen i, ’dyw’n gwneud dim gwahaniaeth i fi/mi; ’does dim ots ’da fi

un den a n. dyn di-nod/distadl, neb o bwys

netraig g. -où dim o beth, peth bach dibwys

netraigoù manach bethau, manion, petheuach

neud g. -où edau, edefyn; llinyn

n. kevnid gwe’r cor

lezit anezhañ da zirouestlañ e n. e unan rhyngddo fe a’i gawl, fe wnaeth y cawl - gadewch iddo’i yfed, fe wnaeth ei wely rhaid iddo orwedd ynddo, gadewch iddo ddatrys ei broblem(au) ei hunan

n.-orjal gwifren, weiren

n.-orjal pik/dreinek gwifren/weiren bigog

neudenn b. -où edau, edefyn; weiren fain; diferyn

n. an istor llinyn/rhediad y stori

n. ar vuhez edau bywyd; llinyn bogail

alaouriñ an n. d’ub. (ffig.)seboni rhn er mwyn iddo gydsynio â chais (ffig.)

bezañ war an hevelep n. bod o’r un farn/feddwl, bod o’r un / bod o gyffelyb anian, bod â’r un daliadau/ diddordebau, bod ar yr un donfedd

hed an n. ar ei hyd, o’r naill ben i’r llall; (ffig.) rhonc, i’r carn, o’i ben/phen i’w draed/thraed, o’i gorun/chorun i’w sawdl

kembread hed an n. Cymro rhonc, Cymro i’r carn, Cymro hyd fêr ei esgyrn, Cymro o’i ben i’w draed, o’i gorun i’w sawdl

kerzhet/bale gant un n. eeun byw yn agos i’w (l)le, cerdded yn gymwys/ gywir, troedio’r llwybr cul

n’eus un n. eeun oc’h ober anezhañ mae e’n llawn celwyddau/twyll, mae’n gwb(w)l anonest, mae’n gelwydd(au) i gyd

ne gomprenan n. ebet ’alla’ i ddim gwneud pen na chwt/chynffon ohono/ ohoni

n’ouzon n. ebet ’wn i ddim o gwb(w)l

ne chom un n. sec’h warnon ’does dim pwythyn sych arna’ i, ’rwy’n wlyb hyd y croen, ’rwy’n wlyb diferu/stecs/ domen/

o nezañ he n. ziwezhañ emañ mae hi ar ben, mae ar ei gwely angau, mae’n dod i ben ei rhawd/thalar, mae ar fin marw

terriñ e n. marw, darfod

unan hag en deus un n. gamm en e wiadenn un sy’ â thro yn ei gwt/ gynffon

neudennañ be. dodi/rhoi edau drwy (grai) nodwydd

neudennek a. yn llawn gwythi (am gig); gludiog, llinynnog, edaf(enn)og (am laeth)

neudenniñ be. llifo/rhedeg yn denau (am hylif); dreflu; arllwys bob yn ddiferyn; addurno ag edafedd gloyw; rhoi weirenfain am gorcynpotel seid(i)r

neuennat be. arnofio, nofio ar wyneb y dŵr; bod yn anwadal/gyfnewidiol o ran pris/gwerth

neuer g. -ien nofiwr

neuerez b. -ed nofreg

neuennat be. arnofio

neuial/neuiñ be. nofio

n. evel ur c’hi plomm nofio fel bricen

n. evel ur pesk nofio fel pysgodyn

n. pe veuziñ un o ddau beth sydd/oedd i’w wneud, rhaid bwrw iddi neu fynd o dan y don

n. war va c’halon pwyso arna’ i, pwyso ar fy nghylla/stumog (am fwyd)

etre beuziñ ha n. emañ mae e/hi rhwng byw a marw, dim ond ei fod e / ei bod hi

poull-n. pwll nofio

neuñv g. nofio

bezañ troet d’an n. bod yn hoff o nofio

chom war n. aros ar wyneb y dŵr, arnofio; cadw’i ben/phen uwchlaw’r dŵr (a ffig.)

mont war n. nofio

neuñver g. -ien nofiwr

neuñvial/neuñviñ be. gw. neuial/neuiñ

neurit g. newritis

neurolog g., neurologiezh b. newroleg

neuroz g. newrosis

neutronenn b. neutron newtron

neuvial be. gw. neuñvial

neuz b. -ioù golwg, ffurf, siâp, osgo, graen

n. fall en deus / ’zo warnañ mae golwg wael arno

n. vat he deus / ’zo warni mae golwg dda arni

n. ur skolaerez he deus / ’zo warni mae golwg/graen athrawes arni

anavezout ub. diouzh e n. adnabod rhn oddi wrth ei osgo

ha n’eo ket ober an n.! ac nid esgus/ ffugio/smalio/cogio / cymryd arno / cymryd arni! ac nid hanner gwneud! heb ddim chwarae!

kaout un n. glac’haret bod â golwg drist/drallodus arno/arni

ober udb. diwar n. esgus/ffugio/ smalio/cogio gwneud rhth, hanner gwneud rhth, cymryd arno/arni wneud rhth

ober (an) n. (da) esgus, ffugio, cymryd arno/arni, cogio, smalio

n’en deus n. ebet da labourat ’does dim graen/golwg gwaith arno, ’does dim siâp gweithio arno fe, ’dyw e ddim wedi’i stofi i weithio

n.-korf ub. gwedd allanol rhn

neuze adf y pryd hynny/hwnnw yr adeg honno/hynny/yna; yna, wedyn; felly

abaoe/adalek/diwar n. ers / oddi ar hynny; ar ôl / wedi hynny

a-benn n. erbyn hynny

a-benn n. hag ac’hanen di en do harzhet meur a gi bydd llawer tro ar fyd erbyn hynny, bydd llawer o ddŵr wedi mynd o dan y bont erbyn hynny, bydd sawl un wedi torri cwt/cynffon ei gi cyn hynny

a-raok n. cyn hynny

betek n. tan hynny

da n. y pryd hynny/hwnnw, yr adeg hynny/honno/yna

diwar n. ers hynny, oddi ar hynny, o hynny ymlaen

ha n.? beth amdani? ac felly?

ha n.! felly! nawr ’te!

stourmomp atav - n. e vo tizhet ar pal! dal(i)wn ati i frwydro - yna fe gyrhaeddwn y nod / fe orchfygwn ni!

n.-souden chwap wedyn

nev b. –ioù caf(a)n (bwyd anifeiliaid); corff eglwys; coffor, sgiw

n.-doas padell (i ddodi toes bara i godi/gwnnu ynddi)

neved g. -où cysegr, seintwar, noddfa

neventi ll. newyddion

‘n. vat d’ar Vretoned’ newyddion da i’r Llydaw-wŷr

nevesaat be. adnewyddu

nevesañ a. gradd eithaf nevez qv.

ardivinkoù eus ar re n. offer o blith y rhai mwya’ newydd/cyfoes/modern

nevez1 a. newydd

avaloù-douar n. tato newydd

an dud-n. y pâr ifanc, y pâr newydd briodi, y priodfab a’r briod(as)ferch

paotr-n. priodfab

plac'h-n. priod(as)ferch

petra ’zo n.? beth yw’r newyddion? pa newydd sydd?

traoù n. ’zo ganti mae pethau newydd ganddi/gyda hi; (ffig.)mae’n feichiog/ disgwyl (plentyn), mae’n magu mân esgyrn (ffig.)

n.-flamm(-flimmin) newydd fflam/ sbon (danlli)

n.-amzer/-hañv gwanwyn

nevez2 adf newydd-

n. ’zo yn ddiweddar; ychydig yn ôl

n.-c'hanet/-vet newyddanedig

n.-deu(e)t newydd ddod/gyrraedd

n.-hal newydd fwrw llo

n.-intañvezet newydd golli’i gŵr

n.-souden chwap (wedyn), yn union (wedyn)

n.-bet/vet newydd fod

n.-bet/vet am eus ar bilhejoù/bilhiji ’rwy’ newydd gael y tocynnau

nevez3 g. ioù newydd(ion); lleuad newydd

an n. y lleuad ar ei chynnydd

war an n. gyda’r lleuad newydd

nevez4 torf. blagur, egin; haid

nevezamzer b. -ioù gwanwyn

nevezded b., nevezder g. newydd-deb, peth newydd

nevezenn b. blaguryn; haid (am wenyn)

nevezenti b. -où newydd; newydd-deb; genedigaeth arfaethedig

nevezentioù an deiz (a hiziv) newyddion y dydd

neveziant g. -ed prentis, dysgwr, newyddian

neveziñ be. adnewyddu; ailadrodd; gofyn eilwaith, ailofyn; agor (am glwyf)

nevezinti ll. newyddion

nevezioù ll. nevez2 qv.

nevid g. -où marchnad

n. an dir y farchnad ddur

n. an tireoul y farchnad olew

nez torf. -enn b. nedd

an traoù gant an traoù - an nez gant al laou lle i bopeth a phopeth yn ei le, rhoi popeth yn ei le a bydd tref(e)n ar bethau

nezañ be. nyddu

n. e c’houzoug / he gouzoug da ub. rhoi tro yng nghorn gwddwg rhn

o n. ar sae, o n. e/he neudenn ziwezhañ, o n. e gevre / he c’hevre ar fin marw, ar ei (g)wely angau , yn nesu at y terfyn (ar farw)

karr-(da-)n., rod-n. troell

ni rhage. 1 ll. ni

ni zo o vont dioustu ’ryn ni’n mynd ar unwaith

nihilegezh b. nihili(sti)aeth

nihilour g. -ien nihilydd

nij g. hedfan(i)ad, ehediad,

diwar/war n. ar adain, yn hedfan/(e)hedeg; ar wib/frys/ruthr, yn frysiog; fel yr hed y frân

mont war n. hedfan, (e)hedeg, mynd ar adain

un nijig-Doue buwch goch gota

un taol-n. / ur bomm-n. hedfan(i)ad, ehediad, gwibiad

nijadenn b. - hedfan(i)ad, ehediad

nijal be. hedfan, (e)hedeg

n.-dinijal hedfan/gwibio yn ôl ac ymlaen; (ffig.) cwrso/rhedeg yn ôl ac ymlaen

nijellat be. gwibio y fan hyn a’r fan ’co / yma a thraw / hwnt ac yma

nijer g. -ien hedfanwr, ehedwr

nijerez b. -ioù awyren

nijerezh g. taith ar/mewn awyren, hedfan(i)ad, ehed(i)ad

nijig: un nijig Doue g. buwch goch gota

nijva g. -où maes awyr(ennau)

nikel g. nicel

Nikolaz epg. Niclas

nikotin g. nicotîn

nikun rhage. neb, unrhyw un

gwelloc’h eget n. gwell na neb

kenkoulz ha n. cystal ag unrhyw un

nilon g. neilon

niñv g. galar, trallod; anabledd

niñval (da) be. galaru/hiraethu (ar ôl)

niskier ll. nask q.v.

nitrat g. nitrad

nitrik a. nitrig

nitrojen/nitrogen g. nitrojen/nitrogen

niver g. -ioù rhif; nifer, llawer

n. bihan nifer fach/fechan

un n. bras a dud nifer fawr/dda/ sylweddol o bob(o)l

an n. daou y rhif deuol (gram.)

niveradeg b. -où cyfrifiad

niverenn b. -où rhif, ffigwr; rhifyn (cylchgrawn ayyb.)

niverennoù kozh ôl-rifynnau

niverenniñ be. rhifo

niverez b. -ioù cyfrifiannell

niveridigezh b.: n. ar pennoù, n.-poblañs cyfrifiad

niveriñ be. rhifo

n. dre zegadoù rhifo bob yn ddeg

niveroniezh b. rhifyddeg

niverus a. niferus

nivlenn b. -où niwlen

niwkleel a. niwclear

niz g. -ien, -ed nai

nizez b. -ed nith

n. vihan nith fach

n.-vihan gor-nith

nizhat be. nithio

noashaat be. dadwisgo, dinoethi; tocio

noaz g. anaf, niwed, loes; cynnen, cweryl, ffrae, trwst, twrw

klask n. creu cynnen, codi twrw, corddi’r dyfroedd (ffig.)

ober n. ouzh ub. gwneud niwed i rn, anafu/niweidio rhn, peri loes i rn

noazh a. noeth; pur, heb ddim dŵr wedi’i ychwanegu ato (am win); wedi’i dynnu o’r wain (am gleddyf)

bezañ war an n. bod yn ei (d)dim, bod heb geiniog goch

laka(a)t ub. war an n. (ffig.) dinistrio rhn yn llwyr (o ran eiddo), peri/ gwneud i rn fod yn ei (d)dim, blingo/ porco rhn (ffig.)

en n. yn noeth

en e benn n. yn bennoeth, heb ddim ar ei ben

en/war e dreid n. yn droednoeth, heb ddim am/ar ei draed

laka(a)t (ub.) en n. dinoethi/dadwisgo (rhn)

war e galon n. ar ei gythlwng, yn llwgu, a’i stumog yn wag, heb ddim yn ei fola/gylla, heb fwyta dim; ar stumog wag, cyn iddo fwyta dim

en em laka(a)t en n. dadwisgo, diosg/ tynnu’i (d)dillad, tynnu oddi amdano/ amdani, ymddihatru, matryd (ar laf.)

ur vro n. gwlad noeth(lwm)

n.-bev/-dibitilh/-dibourc’h/-ganet/-glan/-glez/-grizilh/-puilh/-pourc’h/-putiran/-ran/-barbilh/-blouc’h noethlymun, cwb(w)l noeth, porcyn (ar laf.)

noazhded b. noethni

noazout be. anafu, niweidio, andwyo, gwneud niwed/drwg (i), rhoi/peri loes (i); ceryddu, cystwyo

noazus a. niweidiol, andwyol, dinistriol

nobl a. bonheddig, pendefigaidd, nobl, o dras fonheddig/uchel; drud

an n. / ar re n. y gwŷr bonheddig/ mawr, y boneddigion/byddigion, y pendefigion, yr uchelwyr

noblañs b. -où bonedd, pendefigaeth, tras uchel; plasty, castell

eus an n. o deulu bonedd, o linach/ dras uchelwrol

noblañsoù ll. gwŷr bonheddig/mawr, boneddigion/byddigion, pendefigion, uchelwyr

nodad b. -où torraid, nythaid

un n. bugale torrad/nythaid o blant

nodet abf nodiñ1 qv. hollt, a hollt / a chrac ynddo/ ynddi, wedi hollti/ crac(i)o

nodiñ be. hollti, crac(i)o; deor; agor, ymagor, ymddangos (am flagur, planhigion), blaguro, blodeuo; (ffig.) gwatwar, gwawdio, gwneud hwyl/sbort (am ben rhn), chwerthin (am ben rhn)

bezañ o nodiñ ober udb.(ffig.) bod ar fin gwneud rhth

Noe epg. Noa

kozh-N. mor hen ag Adda

noed g. -où caf(a)n (to)

nogig g. deryn (am ddyn), un/cymeriad direidus/cellweirus

noilh: ober noilh (da) anwesu, maldodi, tolach

noilhat be. maldodi, tolach, mwytho

Nol epg. bachigol Gwennole

nomad a. a g. -ed nomad

nominativ g. (gram.) enwol

nompas adf nid

n. gallout ober udb. bod heb allu gwneud rhth, bod yn analluog/anab(a)l i wneud rhth

evit n. koll amzer i beidio â cholli amser, i arbed (colli) amser

la(va)ret em boa dezhi n. mont dwedais wrthi am beidio (â) mynd

nondedistag! ebych. Arswyd y Byd! y Gallu Mawr! yn (enw’r) Tad!

Nonn epb. Non

Nonn(it)a epb. Nona

nor: treigl. trwynol < dor b. qv.

an nor y drws

nord g. gw. norzh

nordiñ be. newid/troi i gyfeiriad y gogledd (am y gwynt)

normal a. normal, naturiol, arferol

n. eo mae’n normal; mae’n (beth) naturiol/arferol

Norman g. -ed Norman, brodor o Normandi

Normandi b. Normandi

normant a. Normanaidd

norvegeg g. Norwyeg

Norvegia b. Norwy

Norvegiad g. Norvegidi Norwyad, brodor o Norwy

norzh g. gogledd

an avel n. gwynt y gogledd

en n. (da) i’r gogledd (o)

en n. d’Aberteifi emañ Llangrannog i’r gogledd o Aberteifi mae Llangrannog

koll an/e n. colli’i gyfeiriad; colli rheolaeth arno'i hun(an)

Steredennn an N.Seren y Gogledd

n.(-kard)-biz gogledd-ogledd-ddwyrain

n.(-kard)-gwalarn gogledd-ogledd-orllewin

norzhiñ be. troi i’r gogledd (am y gwynt)

nosaat be. nosi

notañ be. nodi, marc(i)o

notenn b. -où nodyn (cerdd; gwybodaeth o bwys yn gryno ar bapur), cofnod; bil; marc (am ddarn o waith ysgol/coleg)

n. traoñ ar bajenn troednodyn

notennoù nodau (cerdd); nodiadau

notennoù gwenn ha notennoù du nodau gwyn a nodau du

notennoù izel ha notennoù uhel nodau isel a nodau uchel

notennoù ar prezegenner/skrivagner nodiadau’r siaradwr/awdur

kaout notennoù mat er skol cael marciau da yn yr ysgol

notennañ/notenniñ be. nodi, gosod/rhoi marc (ar), marc(i)o; nodiannu

n. a ra ar memes tra mae’n rhygnu ar yr un peth o hyd, yr un hen gân/stori sy’ gydag e / gyda hi, yr un hen dôn gron sy ganddo/ganddi

noter g. -ien notari, cyfreithiwr

nouch1 a. hurt, twp, cwarter/hanner-call-a-dwl, ’nercall (ar laf.)

nouch2 g. hurtyn, twpsyn, lolyn, un c,warter/hanner-call-a-dwl, ’nercall

noucherezh g. dwli, ffwlbri, ffolineb, lol

noueañs g. ciwed

nouel g. -où carol Nadolig

nouenn b. olew trugaredd

nou(enn)iñ be. eneinio'r claf, gweinyddu’r eneiniad olaf

nouspegeit adf. ni wyddys pa hyd, ’wys am ba hyd

nouspegement adf. ni wyddys faint, ’wys faint; llawer

nouspet ardd. ni wyddys faint/sawl, ’wys faint/sawl, dyn/Duw a ŵyr faint/sawl; llawer

n. a dud ni wyddys faint o bob(o)l, ’wys faint o bob(o)l, ’wn i ddim faint o bob(o)l, dyn/Duw a ŵyr faint o bob(o)l, llawer/nifer o bob(o)l

n. gwech ni wyddys faint o weithiau, ’wys sawl gwaith, ’wn i ddim sawl gwaith, dyn/Duw a ŵyr sawl gwaith; lawer/sawl gwaith, nifer o weithiau

n. hini ni wyddys sawl un, ’wys sawl un, ’wn i ddim sawl un, dyn/Duw a ŵyr sawl un; sawl un

n’ou(zo)n-pelec’h adf be(th ych) chi’n galw’r lle ’na

n’ou(zo)n-petra rhage. be(th ych) chi’n galw, (y) peth ’na

n’ou(zo)n-piv rhage. be(th ych) chi’n galw, pwy ’na

novis g. -ed darpar offeiriad

noz b. -ioù nos

n. eo (anezhi) mae (hi)’n nos, mae (hi) wedi nosi/tywyllu

n. vat dit/deoc’h! nos da (i ti/chi)! antronoz da n./d’an n. nos drannoeth

bomm/mac’her noz hunllef

dec’h da/d’an n., en n. tremen(et) neithiwr

deu(e)t/erru/serret eo an n. mae (hi) wedi dod yn nos / wedi nosi

disul da/d’an n., disul diouzh an n. nos Sul (diwetha’/nesa’)

don’t da vezañ n. nosi

emberr da/d’an n. heno

en n.-mañ; evit an n. neithiwr; heno

erc’h a ray/raio en n.-mañ bydd hi’n bwrw eira heno

n’em eus kousket takenn en n.-mañ / evit an n. ’chysgais i ddim llygedyn neithiwr

ken na vo n. cyn iddi nosi; hyd nes iddi nosi, tan y nos

warc’hoazh da/d’an n., an/en n. a zeu nos yfory

bezañ ganet da Sadorn da/d’an n. heb fod ym mhen draw’r ffwrn, heb fod yn llawn llathen, heb fod yn hollol yr un fath â phob(o)l eraill

n. teñval / n.-du-dall anezhi a hithau’n dywyll fel bola buwch ddu; mae/’roedd hi’n dywyll iawn; mae/’roedd hi fel y fagddu

n.-deiz, deiz-ha-n. nos a dydd, (d)dydd a nos

n.-ha-n. nos ar ôl nos, un nos ar ôl y llall

n.-veilh gwylnos

n.-veure/-vintin nos/hwyr a bore

nozelenn b. -où botwm/botwn/bwtwn; swits; chwarren

nozelennañ be. botymu/bwtwno

nozik adf yn/wedi dechrau nosi

noziñ be. nosi

nozvezh b. -ioù noswaith, noson; gwylnos

n.-vat dit/deoc’h! nos da (i ti/chi)!

un n. war ar sizhun, un n. pemdez noson waith

nozvezhiad b. noswaith, noson

un n. rev noson o rew, noson rewllyd

un n. kanaouennoù-pobl noswaith/ noson o ganu gwerin

nozvezhiañ be. aros ar lawr drwy’r nos; gwylad; cadw gwylnos

n. gant ar gazeg aros drwy’r nos gyda’r gaseg, gwylad y gaseg

nozvezhier g. -ien gweithiwr nos; deryn (y) nos (ffig. am ddyn)

nudist g. -ed noethlymunwr

nukleel a. niwclear

ur greizenn n. atomfa niwclear

null a. diwerth, da i ddim; cwb(w)l/hollol dwp

n. on ganti ’does ’da fi / ’does gen i ddim amcan/clem, ’does ’da fi ddim llefeleth, ’does dim siâp arna’ i, ’rwy’n gwb(w)l ddi-glem, ’does gen i ddim obadïa

traoù n. pethau diwerth, sothach

nullañ be. diddymu; dirymu

n. an emvod diddymu’r cyfarfod

nullentez b. -ioù diddymdra