CH
chabl g. -où cadwyn/rhaff (llong)
chabous g. -où anghydfod, anghydweld, cynnen, cweryl, ffrae, helynt, cwympo mas
chabousal be. cymhennu, cystwyo, dwrdio, rhoi pryd o dafod (i), rhoi pregeth (i), pregethu (wrth) (ffig.), termo
en em ch. cynhennu, cweryla, ffraeo, cwympo mas, ymgecru
chach g. gw. sach
chadenn b. -où cadwyn; dolen (gyswllt); sianel (deledu)
ch. pevar sianel pedwar, S4C
bez’ ez eus ur ch. wirion etre Breizh ha Bro-Gembre mae dolen gyswllt wirioneddol rhwng Llydaw a Chymru
chadennañ be. cadwyno, clymu wrth gadwyn; rhwymo
chafot g. où sgaffald; terra firma, daear gadarn, tir caled/sych
chag1 a. llonydd (am ddŵr)
dour ch.1 dŵr llonydd, marddwr/ merddwr
chag2 g. dŵr llonydd, marddwr/merddwr
chagrin g. galar; gofid, trallod, tristwch, blinder, poen
chagrinañ be. galaru; gofidio, blino, poeni, pryderu / bod yn anesmwyth (ei feddwl/meddwl)
chakal g. -ed jacal
chakot gb. -où poced, cod(en)
chakotad gb. -où pocedaid, llond poced/cod(en)
chal1 g. llanw
ch. ha dichal llanw a thrai
chal2 g. gofid, pryder, anesmwythyd
bezañ e ch. da ober udb. bod yn daer am wneud rhth, bod yn benderfynol o wneud rhth
e ch. emañ da vont kuit mae’n benderfynol o fynd bant/ymaith/ i ffwrdd
bezañ e ch. gant ub./udb. blino/ gofidio/poeni/pryderu am rn/rth, cael ei fenu/menu gan rn/rth, bod yn ofidus/ bryderus/aflonydd/anesmwyth am/ ynghylch rhn/rhth
n’emaon ket e ch. gant se ’dwy’n blino/gofidio/poeni/pryderu dim am hynny, ’dwy’ i ddim yn poeni taten (bob) am hynny, ’dyw hynny’n menu dim arna’ i, ’dwy’n malio’r un ffeuen / un botwm corn am hynny
n’emaon ket e ch. da vont ’dwy’ i ddim yn awchu/ysu am fynd, ’dwy’ i ddim yn rhy awyddus/chwannog i fynd, ’dwy’ i ddim yn rhy daer am fynd
n’emaon ket e ch. o klask gouzout ’dwy’ i ddim ar dân o eisiau gwybod
chal3 g. -ioù siôl
chalañ be. blino, gofidio, pryderu, poeni, anesmwytho, achosi/perigalar/blinder/gofid/pryder/anesmwythyd
chalantiz b. anwesiad, carad, maldod, mwythau
ober ch. anwesu, canmol (â llaw), maldodan, tolach, rhoi carad/ mwythau (i), mwytho, gwneud ffws (o)
chalbot g. cart/cert
chalbotat be. carto, cario, cludo
chalboter g. -ien cartmon, carier, cludydd
chalet abf chalañ qv.
n’eo ket ch. gant kement-se ’dyw e/hi ddim yn blino/gofidio/poeni/ pryderu/malio dim (taten) am hynny, ’dyw hynny’n menu dim arno/arni, ’dydy o/hi’n malio yr un ffeuen / yr un botwm corn am hynny, ’does dim gwahaniaeth/ots o gwb(w)l ganddo fo / ganddi hi / gydag e / gyda hi am hynny; dŵr ar gef(e)n hwyad yw e (iddo fe / iddi hi)
chalm g. -où swyn, hud
chalmer g. -ien swynwr, dewin
chalmiñ be. cyfareddu, swyno, hudo
chaloni g. -ed canon (eglwysig)
chalotez torf. -enn b. sialóts ll. sialotsyn, sibwns ll. -yn, sibols ll. -yn
chalpat be. cipia; cyfarth
chalus a. blinderus, gofidus, pryderus, trallodus; cythryblus; diamynedd
champion g. -ed pencampwr, enillydd
chañch g. a be. gw cheñch
Chandelour g., Gouel ar Ch. Gŵyl Fair y Canhwyllau, Gŵyl Puredigaeth Mair, yr ail o Chwefror
Chann epb. Siân
chañs b. -où lwc, ffawd
ch. deomp/dimp d’ober kement-all da vloaz gyda lwc gallwn wneud yr un peth y flwyddyn nesa’, gobeithio y gallwn ni wneud hynny ymhen blwyddyn
ch. fall anlwc, anffawd
ch. vat dit/deoc'h! lwc dda i ti/chi! pob lwc!
c’h. vat en deus! mae e’n ffodus/lwcus! gwyn ei fyd!
dre chañs drwy lwc, yn ffodus
(ne)met ur ch. e ve(fe) heblaw am dipyn o lwc, heblaw bod ffawd o’m plaid /o’th blaid / o’i blaid / o’i phlaid o’n plaid / o’ch plaid / o’u plaid
nemet ur ch. e ve e weli anezhañ os na ddigwyddi di’i weld
ur ch. eo dit ’rwyt ti’n ffodus/lwcus
chañsoù campau, gorchestion
chañsañ be. digwydd
mar chañs dit os digwydd i ti, a bod digwydd i ti, a digwydd/hap dy fod
chañson b. -ioù cân, cerdd
chañsus a. ffodus, lwcus
chantele g. -où cangell
chanter g. -ioù iard (waith), safle adeiladu (tai, llongau)
ur ch. sevel tiez safle adeiladu/ codi/cwnnu tai
ur ch.-bigi iard longau
chao gb. -ioù ceffyl/asyn gwaith/gwedd; gwedd; cweryl, ffrae, cynhennu, cwympo mas; ffrwgwd, (y)sgarmes, ymgecru, ymryson; cynnwrf, helynt, mwstwr, stŵr, halibalŵ, randibŵ
ch. zo eno mae yna gynnwrf/helynt / gwympo mas yno, mae’n gythryblus yno
chaodouron g. -où crochan
chaok g. -où cnoad; cleber, lap, siarad gwag
ch. a zo diwar e benn / he fenn mae siarad/sôn amdano/amdani
lez da ch.! gad dy gleber/lap (ar laf.)! bydd (yn) dawel!
ne zeue kalz ch. dioutañ ’doedd dim llawer o gleber gydag e, ’doedd o ddim yn un am falu awyr
ne oa na ch. na stran a rae diouer diwar e benn / he fenn ’doedd dim pall/taw ar y siarad amdano/amdani, ’roedd tipyn o siarad/sôn amdano/ amdani
chaokadenn b. -où cnoad, brath(i)ad
chaokat be. cnoi, bwyta; dweud, yngan; mwngial/mwmian; clebran, baldorddi
ch. e c’herioù cnoi/bwyta’i eiriau
ch. e ivinoù cnoi’i ewinedd; (ffig.) gofidio, pryderu
ch. mizer dioddef cyni/tlodi, bod mewn angen, crafu byw
ch. un aval cnoi/bwyta afal
hep chom da ch. e c’henoù / he genoù yn blwmp ac yn blaen, heb bilo wyau (ffig.)
chaoser gb. -ioù cob, sarn; morglawdd; argae
chaoson g. (i)où sliper; hosan fach/fer, socen
chaosonioù en he zreid sliperi am/ar ei thraed
war solioù/solennoù e chaoson(i)où yn nhraed ei sanau
chaous g. -où saws; hylif, gwlybwr
chapalan g. -ed caplan
chapel b. -ioù capel (eglwysig); capel anwes
ch. wenn gw. gwenn
chapeled g. -où paderau
charigell a. ansad, sigledig, simsan
charigellañ be. gwegian, siglo, simsanu
charivari g. stŵr, mwstwr, twrw, cynnwrf, halibalŵ, randibŵ
charkuteri/charkutiri b. -où siop seigiau sawrus oer, siop amrywiol gigach oer
charl/jarl g. -où cynrhonyn
Charl(ez) epg. Siarl
charn b. -où celain, corff marw; (ar laf. yn ddifrïol) diawl , cythraul, bastard
charnoù vil! yr hen ddiawliaid felltith!
charre g. -où cludiad, cludiant; cyffro, berw; ffwdan, helynt, helbul, trafferth, trafô (ar laf.)
ch. zo gantañ mae e ar waith i gyd, ’all e ddim bod yn llonydd, ’dyw e ddim yn llonydd am eiliad; mae gwaith wrtho/gydag e
amañ ez eus ch.! mae ’na gyffro/le/ helynt/helbul yma! mae hi’n ger’ed yma (ar laf.)!
bale/bezañ/kerzhet war (ar) ch. cerdded â thraed chwarter i dri / â’r traed yn troi allan/mas / fel hwyaden
bezañ en e charreoù bod yn ei hwyliau da / mewn hwyl dda
kemer ch. gant ub. ymboeni â rhn, trafferthu ynghylch rhn, mynd i drafferth dros rn
ober ch. en-dro d’ub. seboni/llyo/ llyfu rhn (ffig.), gwneud ffws o rn, ymgreinio o flaen rhn, cowtowio/ ffalsio i rn
charreat be. carto, cario, cludo
charreter g. -ien cartmon, carier, cludydd
ar c’haerañ ch. a ziskar e garr mae’r calla’/gorau yn colli/methu weithiau, nid yw’r call ond call weithiau ( ond mae’r ffôl yn ffôl o hyd), ceir gwall ar y calla’, nid yw’r doeth ddoeth bob amser, ’does neb yn berffaith, nid oes cryf heb wendid; rhaid troi’r drol cyn bod yn wir gartmon
chas ll. ki qv.
n’emañ ket diwar ch. ar vro ’dyw e ddim yn frodor/enedigol/wreiddiol o’r ardal, nid un o’r fro yw e yn enedigol, dyn dŵad yw e / gwraig ddŵad yw hi, un o bant yw e/hi
ober ch. bihan (ar laf.) chwydu, cyfogi, taflu i fyny
stagañ ar ch. diwar-goust silzig sbrat i ddala macrel/samwn
chase g. -où hela; cwrs
chaseal be. hela, cwrso, erlid
chaseour g. -ien hel(i)wr
chastre g. -où trafferth, helbul, helynt, anhawster, rhwystr, poendod
ch. he deus gantañ mae’n cael trafferth gydag e, mae’n cael llaw drwm/drom gydag e / ganddo fo
chastreüs a. trafferthus, helbulus, anodd, annifyr, blin(derus), poenus
chatal ll. da, gwartheg; anifeiliaid ffarm/ fferm
ar ch. korn da corniog
chati g. trafferth, helbul, helynt, gofid, problem, anhawster
hep ch. ebet heb unrhyw drafferth/ofid o gwb(w)l, heb ddim anhawster yn y byd
che! ebych. hy!
ched g. -où daear (creadur), gwâl, ffau, lloches; cwt, cut, caban, sied; (ar laf.) llety, gwely
en e/he ch. (ffig.) bod ar ben ei ddigon, bod mewn hwyl dda (yn enwedig o ran iechyd)
n’emañ ket en e ch. (ffig.) ’dyw e ddim yn hwylus, mae e’n anhwylus/ ddi-hwyl, mae o’n bethma/gwla/giami
cheftalenn b. -où pot coffi
chekenn b. -où siec
ur ch. dibourvez siec ddiwerth
karned-chekennoù llyfr siec
chelp/chalp g. -où bilwg, cryman perthi
chelpenn b. -ed merch fachgennaidd/ wrywaidd, rhampen/rhompen, tomboi, cadi hogiau
cheñch1 be. newid; cyfnewid
c’h. krenn e zoare / he doare (evit ar gwellañ) newid ei ffordd (er gwell) yn grwn/ llwyr, dod at ei goed/choed, troi dalen (ffig.), diwygio’i ffordd; cael diwygiad/tröedigaeth (ffig.)
ch. neudenn en e/he nadoz, ch. park/ tiretenn newid ymadrodd, newid pwnc/testun (siarad), troi’r sgwrs/stori, troi’r gath yn y badell (ffig.)
ch. tu newid och(o)r; newid cyfeiriad
ch. tu d’e borpant/chupenn (ffig.) newid ei got/gôt/och(o)r
cheñch2 g. newid
ch. zo warnañ abaoe m’eo dimezet mae e wedi newid oddi ar iddo briodi
pebezh ch. war ur plac’h! dyna newid mewn merch!
ch.-dicheñch cyfnewidiol, anwadal, chwit-chwat, di-ddal, oriog, ansefydlog, yn newid yn barhaus
cheñchamant g. -où, cheñchamañchoù newid(iad)
ezhomm ’z eus a ch. mae eisiau/ angen newid
dre en em unaniñ e vimp gouest da zegas ch. er bed drwy uno gallwn newid y byd
peseurt ch. a zo digouezhet ennon en ur ober nebeut amzer dyna newid sy’ wedi digwydd yno’ i mewn amser byr
ur ch. bras newid mawr/aruthrol; chwyldro
ur ch. a zo un dra red rhaid wrth newid, mae newid yn hanfodol
cheñchamañchoù ar prizioù codiadau a gostyngiadau / amrywiadau mewn prisioedd
cheñchet abf. cheñch qv.
ch. krenn / penn-da-benn / penn-ouzh-p. an traoù mae pethau wedi newid yn grwn / yn llwyr / yn gyfan gwb(w)l; daeth tro ar fyd
an traoù o doa ch. tu ’roedd pethau / ’roedd yr amgylchiadau wedi newid
goude ’voe ch. penn d’ar vazh newidiwyd pethau’n llwyr wedyn
chentil a. addfwyn, mwyn, hynaws, tirion, tyner; dymunol; caredig
cherif g. -ed siryf; barnwr sirol
cherisañ be. anwylo, anwesu, maldodi
chervad b. -où gwledd, gloddest, ffest
ober ch. gwledda, gloddesta
chetu ebych. gw. setu
cheuc'h a. crand, chwaethus, urddasol; swanc; rhwysgfawr
chevr(-ruz) torf. -enn(-ruz) b. corgimych-iaid ll. corgimwch
chevrenn b. -ed merch ifanc bert/ddel, clatsien (ffig.), clegen, pis(h)yn, (ffig.)
chevret(es)a be. pysgota corgimwch
chevretez torf. -enn b. corgimychiaid ll. corgimwch
chevr-traezh torf. -enn-draezh b. berdys
chiboud(ig) g. -où ystumiau, clemau, seans
chom/ober/sevel ch.. (am anifail) codi coesau blaen, sefyll ar ei goesau ôl, beg(i)an; (ffig. am bobol) llyfu/llyo (tin), cynffonna, seboni, ymgreinio, cowtowio, ffalsio; maldodi, tolach
c’hoari ch. cael cyfathrach rywiol (ar laf.)
ne chom ket d’ober ch. d’an dud ’dyw e’n gwastraffu/bradu dim amser i/yn seboni’r bob(o)l, mae’n gwb(w)l ddi-lol/ddi-seremoni
chichant a. annwyl, dymunol, hawddgar, hoffus, hyfryd, hynaws, rhadlon, cyfeillgar
ch. evel heol miz Mae dymunol/ hawddgar/hyfryd fel haul mis Mai
un den ken dous ha ken ch. dyn mor addfwyn ac mor hawddgar/rhadlon
ur paotrig ch.-tre a oa deus outañ ivez ’roedd yn grwt bach annwyl iawn hefyd
chidouarn g., chidourenn b. -où crochan
chidouarnad g., chidourennad b. -où llawn/llond crochan
chif g. tristwch, galar, ing; dicter, dig, llid; sbeit
chifañ be. galaru; blino, gofidio, pryderu, poeni, tristáu, aflonyddu, anesmwytho
chifet abf chifañ qv. trallodus, gofidus, pryderus, aflonydd/anesmwyth (ei feddwl/meddwl); siomedig, wedi’i siomi
chifr g. gw. sifr
chigardiñ be. poeni, plag(i)o, pryfoc(i)o
chik1 g. -où gên
chik2(ad) g., chikadenn b. -où joien (o dybaco)
chik3! ebych. hisht!
chikan g. -où anghydfod, cynnen, ffrae, cweryl
klask ch. ouzh ub. ceisio codi cynnen/ ffrae â rhn, ceisio tynnu bigít â rhn
ober ch. d’ub. cymhennu/cystwyo/dwrdio/termo rhn
chikanañ be. ceisio codi cynnen, chwilio am ffrae, tynnu bigít; cynhennu, ffraeo, cweryla, cwympo mas, ymgecru; chwilio am feiau, hollti blew (ffig.)
chikaner g. -ien un cynhenllyd/cecrus
chikanerezh g. cynhennu/cweryla/ ffraeo parhaus, cwympo mas diddiwedd; ffrae enbyd, cweryl cas
chikanus a. cecrus, cynhenllyd, ffraellyd, cwerylgar
chikardiñ be. gw chigardiñ
chikat1 be. cnoi baco
chikat2 be. plastro, rhoi cot (o blast(a)r; o wyngalch; o baent); pwynt(i)o (wal); jimo, pinc(i)o, ymbinc(i)o
ch. gant raz gwenn gwyngalchu
chikolodenn1 b. -ed merch o G-Kastell-Paol
chikolodenn2 b. -où penwisg merched Kastell-Paol
chikore g. sicori
chiletenn b. gw. jiletenn
chilgamm a. cloff
chilgammañ be. cloffi, clunhercan
chilpadeg b. -où cyfarth, cipial (llawer gyda’i gilydd)
chilpadenn b. -où cyfarthiad, cipial (unigol)
chilpat be. cyfarth (yn dreiddgar am ysbeidiau byr), cipial; difrïo; clecan, hel clecs; poeni, plag(i)o, pryfoc(i)o, tynnu coes
chimiañ be. gwrteithio â gwrtaith cemegol
chimik1 a. cemegol; wedi'i fathu (am air), wedi’i bathu (iaith), ffug
chimik2(ez) torf. chimikenn b. matsis ll. matsien
chiminal gb. gw. seminal
Chin, ar Ch., Bro-Ch. e.lle. Tsieina gw. Sina
chinañ be. gwerthu o dŷ i dŷ / o ddrws i ddrws (yn enwedig am Sioni/Mari Winwns)
chink g. -où gên
chintrañ be. chwistrellu; tasgu
chintrerezh-dour b. chwistrell ddŵr
chipot g. cist, blwch, bocs; llestr bach ; sedd wrth y tân
ch.-holen cist halen a gedwid yng nghornel yr aelwyd
chipotal be. barnu, beirniadu, gweld beiau; bargeinio, dadlau (ynghylch pris rhth); petruso, meddwl ddwywaith, bod rhwng dau feddwl
chistr g. -où seidr
ch. dous seidr melys
choanenn b. -où torth fach gron o fara, coben
choaz1 be. dewis, dethol
choaz2 g. dewis, detholiad
ar ch. eus an dud hufen cymdeithas
da bep hini e choaz - askorn d’ar c’hi logod/pesked d’ar c’hazh llong i longwr a melin i felinydd, pawb at y peth y bo, pawb â’i ddiléit/ffansi; melys i bawb ei bleser
chobar g. truan, pŵr dáb, diniweityn, un gwirion
chod/chot b. gw. jod
chofeur g. -ien gyrrwr, sioffer
chokolad g. -où siocled; diod siocled
cholori gb. stŵr, mwstwr, twrw, randibŵ, halibalŵ
pebezh ch.! dyna stŵr/fwstwr/dwrw/ randibŵ/halibalŵ!
chom be. aros; sefyll; bod; dal (i fod); byw (mewn lle)
ch. a ra c’hoazh mae rhagor ar ôl (o hyd), mae peth yn dal ar ôl (eto)
ch. a-dreuz gant e hent (ffig.) methu dod i ben â’i fwriad/bwriad, methu â chyrraedd y nod
ch. a-sav, ch. pik/krenn sefyll yn stond
ch. bamet/estonet/estlammet/ sabatuet/sebezhet/souezet synnu, rhyfeddu, bod yn syn/syfrdan
ch. bev goroesi, aros yn fyw, cadw’n fyw
ch. bouc’h/dilavar aros/bod yn fud, methu ag yngan gair, methu dweud dim, methu (ag) ateb
ch. da zilerc’hiañ aros/oedi ar ôl pawb arall / y lleill
ch. divrall sefyll yn gadarn/ddi-syfl/ddi-sigl/ddiysgog/dd-ildio
ch. evel maen ar c’hleuz peidio â symud o gwb(w)l, bod yn ddi-syfl, aros yn hollol lonydd
ch. fur/peoc’h/reizh/sioul/trankil bod yn dawel/ddistaw, bod yn fachgen da / yn ferch dda, bihafio/byhafio ei hun(an)
ch. fur/peoc’h/reizh/sioul/trankil! bydd (yn) dawel/ddistaw! bydd yn fachgen da / yn ferch dda! bihafia/ byhafia dy hun(an)!
ch. pell bod yn hir; byw ymhell; para’n hir
ch. pell oc’h ober udb. bod yn hir yn gwneud rhth
ch. plac’h-yaouank-kozh aros yn hen ferch / yn ferch weddw
ch. war da dreuz(i)où! cadw di allan/mas ohoni! cadw di dy drwyn allan/mas! paid ti (â) busnesan! meind(i)a di dy fusnes!
an dud a chomo er gêr n’o devo netra y ci a gerddo a gaiff (asgwrn i’w bilo), nid â yr hwn a erys yn y pant fyth dros y bryn, egni a lwydd
hep ch. da dortañ/varc’hata heb oedi dim, yn ddiymdroi, ar unwaith, yn syth bin
ne ch. ket ken/c’hoazh ’does dim ar ôl, ’does dim rhagor/ychwaneg
n’emaomp ket da ch. war an douar-mañ dros dro ’rydym/’rydyn/’rŷm/’rŷn ni ar y ddaear ’ma / yn yr hen fyd ’ma
petra a ch. da ober? beth sydd i’w wneud eto? beth sydd (ar ôl) heb ei wneud?
unan a ch. pell diouzh an dud un anghymdeithasol, cymysgwr gwael, un annibynnol
chomadenn b. -où arhosiad
chopin g. -où (hen fesur) hanner lit(e)r, c. peint
beg ch. yfwr mawr, tancwr, meddwyn
chopinad g. -où hanner lit(e)r; gwydraid, c. peint; diferyn, llymaid (o ddiod feddwol)
hennezh a gav mat e ch. mae’n hoff o’i beint / o godi’i fys bach (ffig.)
chopinat(a) be. llymeit(i)an, yfed ger’ed, tanco, bod ar y dablen, slotian, codi’r bys bach (ffig.); meddwi
(ar) chotorell b. -où y dwymyn doben, clwy’r pennau
chou ('ta)! ebych. shŵ! (i gwrso/ymlid creaduriaid)
ken prim ha lavaret ch. d’ar yar ar/mewn amrantiad, mewn chwincad/ clipad
ober ch. d’ar merc’hed (ar laf.) cwrso merched
chouadenn b. -où sgrech; gwaedd, bloedd (i ymlid adar, ayyb.)
choual be. gweiddi, bloeddio (i ymlid adar, ayyb.)
chouan(t) g. -ed brenhinwr Llydewig adeg y Chwyldro Ffrengig, adweithiwr
chouchenn b. medd
chouk1 adf wedi’i stwff(i)o’n llawn, yn llawn i’r ymylon, dan ei sang; och(o)r yn och(o)r, yn dynn yn ei gilydd, yn agos iawn at ei gilydd
daou di ch.-ha-ch. dau dŷ och(o)r yn och(o)r / yn dynn yn ei gilydd
chouk2 g. -où gwegil; gwar, rhan ucha'r cef(e)n
e ch. e gil ar ei war/wegil
kreñv e ch. cefnog, cyfoethog, goludog
ch.-(an-)troad cef(e)n/mwnwgl troed
ch.-ar-votez cef(e)n/mwnwgl esgid
ch.-e-benn/-he-fenn tin dros ei ben / ei phen
ober lamm-ch.-e-benn / lamm-ch.-he-fenn neidio tin-dros-ben; mynd dwmbwl-dambal
choukad g. -où ergyd ar war / ar gef(e)n; ergyd; baich/llwyth ar gef(e)n
chouk(enn)añ be. llwytho, gwthio i (mewn i), stwff(i)o, llanw'n dynn, gorlenwi; gor-fwyta, claddu/llarpio/ llimpro/llowcio/sglaffio/stwff(i)o/ haffio bwyd, stwff(i)o’i hunan; ysgwyddo, codi/cwnnu ar ei gef(e)n/chef(e)n / ar ei (h)ysgwyddau/sgwyddau; crymu, cwmanu, crwmpo, gwarro, gwargamu, gwargrymu; eistedd; rhoi
chouk ’ta buan! bacha/bagla/gwadna hi’n glou! hegla hi’n gyflym! cer/dos o ’ma ar unwaith!
choukata be. ysgwyddo, cario/llwyth ar ei gef(e)n/chef(e)n
chouket abf choukañ qv.
ar c’hi a oa ch. war e gil ’roedd y ci yn eistedd ar ei ben ôl
choukennañ be. gwarro, crwmpo, cwmanu, gwargamu
choukouk : ober ch. (iaith plentyn) cysgu bei (iaith plentyn)
choul a. clyd, diddos
choupañ/choupata be. codi/cwnnu (yn uchel) yn ei freichiau/breichiau
chouradenn b. -où anwesiad, carad
chourañ be. anwesu, anwylo, caru (yn gorfforol), maldodi, tolach
chourch a. effro
chourek a. cwsg, cysglyd, difywyd
chourig g. anwesiad
ober ch. anwesu, anwylo, maldodan, tolach, mwytho, rhoi carad (i)
chourik g. gwich(iad)
chourikal be. gwichal/gwich(i)an; rhincian
chouroù: ober ch. anwesu, anwylo, maldodan, tolach, mwytho; canmol (ci)
chuchal be. snwff(i)an; cardota
chuchual be. tin-droi, sefyll(i)an, segura, gwagswmera, loetran, ymdroi
chuchuiñ be sibrwd
chuchumuchu g. sibrwd, sisial
chuchumuchu adf yn dawel, yn sibrwd/sisial
chufere g. medd
chug g. -où sudd
ch.-frouezh sudd ffrwyth
chugal be. gwasgu (ffrwyth; gwaed)
chugañ be. sugno
chugell/chugenn b. -où gw. chutell
chugon g. sudd, sug, nodd
chugonus a. yn llawn sudd
chumenn b. -où ewyn
chumenniñ be. ewynnu
chupenn b. -où siaced, cot fach; cot/côt (creadur)
cheñch tu d’e ch., treiñ e ch. troi’i got (ffig.), newid ei och(o)r
lavaret udb. d’e/he ch.dweud rhth wrtho’i/ wrthi’i hun(an), dweud rhth o dan ei (h)ana(d)l / yn ei (d)dwrn / yn ei (i)lawes
pikañ/broudañ/peñseliat ch. ub. difrïo/difenwi/dilorni/diarhebu/pardduo rhn
tomm ’oa bet d’e ch.! cafodd ddihangfa wyrthiol, bu bron â’i chael hi! bu ond y dim / o fewn dim / o fewn trwch blewyn / o fewn trwch asgell gwybedyn iddo’i dal hi! cael a cael oedd hi iddo fe!
chut(ig) g., chutell/chutenn b. -où teth(en) (o wneuthuriad dyn), dymi, diti; lolipop
chutal be. sugno