Croeso i wefan Breizh-Cymru. Sefydlwyd y wefan i gynnig lle i letya gwybodaeth am gysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw a rhwng eu hieithoedd. Yr adran gyntaf i gael lle ar y wefan yw Geiriadur Llydaweg-Cymraeg y diweddar Rita Williams (Erthygl Wicipedia - https://cy.wikipedia.org/wiki/Rita_Williams). Roedd Rita yn gweithio ar y geiriadur pan iddi ein gadael yn ôl yn 2018. Ar gais ei theulu rydym yn cyhoeddi'r deunydd fel y'i cafwyd ar ei chyfrifiadur. Mae'n ymddangos ei bod ar fin ei gwblhau. Yr unig newidiadau a wnaed yw tynnu rhai ymadroddion oedd heb gyfieithiad ac wedi eu marcio felly ganddi. Mae llawer o enwau blodau a phlanhigion yn y gwaith. Rydym yn awyddus i'w safoni gyda'r enwau botangeol cywir a chychwynnwyd ar y gwaith ond penderfynwyd cyhoeddi'r geiriadur cyn gorffen. Rydym wedi cyrraedd diwedd y llythyren B sef tua chwarter o'r gwaith.