H
h.a. (hag all) ayyb. (ac yn y blaen)
ha1 cys. (o flaen cyts.) a(c)
bras h. bihan mawr a bach
kozh h. nevez hen a newydd
mat h. fall drwg a da
kammed-h.-kammed, pazenn-h.-pazenn bob yn gam/dipyn/damaid, un cam ar y tro, o gam i gam, gam a cham, gam wrth gam, fesul cam/tipyn, yn raddol, gan bwyll
kazel-h.-kazel braich ym mraich
kein-h.-kein cefngefn, gef(e)n wrth gef(e)n
kichen-h.-kichen och(o)r yn och(o)r, wrth/yn och(o)r/ymyl ei gilydd, ar bwys ei gilydd
ha2 cys. mewn cymhariaeth (o flaen cyts.) â, ag
ha3 rhage. perth. (o flaen cyts.) a
ha4? geir. gof. (o flaen cyts.) a?
ha dont a ray/raio? a ddaw e?
en em c’houlenn a ran ha fur e teuio da vezañ ’rwy’n dyfalu a wnaiff e/hi gallio
ha5! ha! ebych.(i fynegi llawenydd) ha! ha!
ha ma ...? cys. (gyda'r amod.) beth pe ...?
ha pa cys. (gyda'r amod.) hyd yn oed pe
habask a. tyner, addfwyn; tawel, distaw; dof, hydrin, hawdd ei drin/thrin, hawdd ymwneud ag e / â hi; hyblyg; hynaws, dymunol; amyneddgar
habaskaat be. tawelu, distewi, tewi, gostwng (am y gwynt); dofi; tymheru
habaskted b. amynedd
habaskter g. tawelwch, distawrwydd
hacheiz g. pryd o friwgig
had g. -où hedyn, had; hil; sberm; grawn (pysgod)
h. pesked grawn pysgod
dougen h. bod yn feichiog
mont en h. hadu
teuler an h. hau had
teuler o h. hadu (am blanhigion); dodwy eu hwyau (am bysgod)
tud fall - abred pe ziwezhat ho po greun diwar hoc’h h. (yn hwyr neu’n hwyrach) byddwch yn medi yr hyn a heuwch / bydd yn rhaid i chi dalu am eich drwgweithredoedd, a heuo ddiawl a feda gythraul
avaloù-douar-h. tato had
hadañ be. hau
h. gevier hau/lledu celwyddau/ anwireddau
h. karotez crynu’n ddi-baid/ddibaid fel hen ŵr
h. perlez e-touez ar mez moc’h taflu/ tawlu perlau gerbron y moch
hadenn b. -où, had hedyn
un h. (ffig.) clatsien (ffig.), pishyn (ffig.), merch bert/ddel
hader g. -ien heuwr
hadet abf hadañ qv.
arabat d’an hini en deus h. drein/ askol bale diarc’hen a heuo ddrain/ ysgall na cherdded yn droednoeth
hadgell b. -où wyfa/wygell (planhigyn)
hael1 b. -ioù corn aradr
hael2! ebych. i’r dde! (gorchymyn i gaseg/geffyl)
hag1 cys. (o flaen llaf.) a(c)
h. all (h.a.) ac yn y blaen (ayyb.); a chwb(w)l, a phopeth
hag2 cys. mewn cymh. (o flaen llaf.) â, ag
hag3, hag a rhage. perth. (o flaen llaf.) a
hag4? geir. gof. (o flaen llaf.) a?
hag-eñ cys. (cwestiwn anuniongyrchol) a; er, serch
hailhevod g. -ed gw. hailhon
hailhevodenn b. -ed merch/gwraig anfoesol/ddrwg/wyllt, putain, slwt
hailhon g. -ed gwalch, cnaf, dihiryn, adyn, cenau, dyn drwg; un afradlon
hakr a. hag(a)r, hyll, salw; cas, gwael; brwnt, budr, ffiaidd (yr olwg) erchyll
komzoù h. geiriau cas/ffiaidd
laka(a)t da vezañ h. hagru
halañ be. halu, bwrw llo, dod â llo; ŵyna/oena, bwrw oen, dod ag oen
haleg ll. -enn b., gwez-haleg ll. -enn-haleg b. helyg ll. -en
halo/halv g. poer, glafoerion
lonkañ e h. llyncu’i boer, llyncu dŵr ei ana(d)l
hañ! ebych. (h)o!
hanaf g. -ioù cwpan, cawg; dysgl (bren)
hanoch torf. -enn b. coed tân, plociau
koad h. coed tân
hanochañ be. llif(i)o (coed/en)
hanochenn b. -où plocyn (i’w roi ar y tân); ffon fara
un h. vara ffon fara
hanocherez b. -ioù llif gadwyn
hanter1 adf hanner, lled; cetyn (ar laf. yn achlysurol)
h. boaz wedi’i (l)led ddigoni/ferwi
h. griz (yn) lled amrwd
h. leun hanner llawn
h. noazh hanner noeth
h. glevet wedi hanner ei glywed/ chlywed
h. gompren hanner/cetyn deall, lled ddeall
h. gousket yn hanner cwsg, rhwng cwsg a di-hun / ac effro
h. lazhañ dar(n)ladd, hanner lladd
h. ober hanner/cetyn gwneud
h. sot hanner call/pan
h. varv lled farw, hanner marw
h. vezv hanner meddw
h. wir hanner gwir
h.-zigor cilagored
hanter2 gb. hanner; cetyn (ar laf. yn achlysurol)
h. briz hanner pris
h. hent hanner ffordd
h. kant hanner cant
h. vintin canol (y) bore
bezañ war h. gant ub. mynd hanner a hanner â rhn, cwrdd â hanner y draul gyda rhn, rhannu’r draul â rhn
daou lur/livr h. dau bwys a hanner
div eur h. hanner awr wedi dau
e h. diegezh ei hanner arall, ei briod/wraig
ober udb. a h., n’ober udb. nemet a h. gwneud hanner rhth, heb wneud ond ei hanner
pa vez tro da goll eo gwelloc’h h. eget holl gwell colli hanner rhth na cholli’r cwb(w)l
un h. aval hanner/cetyn afal
un h. devezh hanner diwrnod
un devezh h. diwrnod a hanner
un h. gilogramm hanner cilogram, c. pwys
un h. re gormod(d) o’r hanner, getyn yn ormod(d)
un h. waz merch wraidd, peth wraidd
ur metr h. metr a hanner
h.-(ouzh-)h., war zaou-h. hanner a hanner
mont/prenañ war zaou-h. mynd hanner a hanner; prynu hanner yr un, prynu bob o hanner
h.-amzer hanner amser
labourat h.-amzer gweithio hanner amser
h.-bae hanner cyflog
hanterañ be. haneru, torri yn ei hanner; rhannu
hanterc’hoar b. -ezed hanner chwaer
hanterdro b. -ioù hanner tro
hanterenn b. -où (gyda rhifol a threfnol) hanner
an h. gentañ eus ar bloaz hanner cynta’r flwyddyn
div h. dau hanner
un h. un hanner
hantererezh g. asiantaeth; cyfrwng
hantereur b. -ioù hanner awr
hantereurvezh b. -ioù hanner awr o hyd
hantereurvezhiad b. -où (llawn/hyd/ mesur) hanner awr
un h. labour hanner awr o waith
hantergelc’h g. -ioù hanner cylch
hantergensonenn b. -où hanner cytsain, lled-gytsain
hantergofad g. -où (ar laf.) gefaill
hanternoz g. hanner/canol nos; gogledd
h. ha kard chwarter wedi hanner/canol nos
h. ugent ugain munud/muned wedi hanner/canol nos
h. nemet pemp pum munud/muned i hanner/ganol nos
Amerika an H. Gogledd America
troet eo e di d’an h. mae’i dŷ yn wynebu’r gogledd
unan eus an h. gogleddwr g., gogleddwraig b.
hanternoziad g. hanternozidi gogleddwr, gog (ar laf. am ogleddwr yng Nghymru)
hanterour g. -ien cyfryngwr, canolwr; eiriolwr
hanterouriezh b. cyfrwng
dre h. va/ma c’henderv drwy (gyfrwng) fy nghefnder
hantervogalenn b. -où lled-lafariad, llafariad gytseiniol/ansillafog
hantervoul b. -où hemisffer, hanergylch
an h. norzh hemisffer y gogledd
an h. su hemisffer y de
hantervreur g. hantervreudeur hanner brawd
hañv g. haf
evit an h. yr haf diwetha’; yr haf hwn; yr haf nesa’
an hini evel ar grilhon a c’hwitell e-doug an h. : er goañv a vo dibourvez hag a wasko ar hindda mae cynuta rhag oerni/annwyd y gaea’, ar hindda mae gweithio rhag newyn pan ddelo, rhaid i ti ’morol am fwyd a chynnud cyn yr eira, na chwsg Fehefin rhag rhew Ionawr
n’eo ket un devezh (heol) tomm a ra an h. (nag ur barr-avel a ra ar goañv) un wennol ni wna wanwyn
h.-goañv/-c'hoañv haf a gaea’, drwy’r flwyddyn (ar ei hyd), gydol / ar hyd y flwyddyn
hañvig Foar Vikael / Gouel Mikael Foar an Nec’h haf bach Mihangel/ Gwylangell
hañvad1 g. -où haf (ar ei hyd)
un h. glav haf gwlyb/glawog
hañvad2 g. hañvidi ymwelydd (haf), twrist (haf)
hañval a. hafal, tebyg, ac fel e.
hep e h. heb ei debyg, yn ddihafal
hañvaladenn b. -où dameg
hañvalout be. ymddangos, bod/edrych yn debyg
war a h. yn ôl pob golwg/tebyg, mae’n debyg
hañvezh g. -ioù haf (ar ei hyd)
tremen an h. er c’hamp e Llangrannog bwrw/treulio’r haf i gyd / ar ei hyd yn y gwersyll yn Llangrannog
un h. un haf (ar ei hyd); un haf (arbennig/ neilltuol)
hañvig g. gw. hañv
hañviñ be. bwrw/treulio’r haf; aeddfedu (yn haul a gwres yr haf)
hañvouez g. biswail
hañvour g. -ien ymwelydd haf, twrist (yr haf)
haod g. llyffethair, hual, gefyn
haodiñ be. llyffetheirio, hualu, gefynnu; dal(a), maglu
haor/havr : An H.-Nevez e. lle Le Havre (Ffrg)
hardi1(zh) a. dewr; beiddgar, digywilydd, eofn/ewn, eg(e)r, haerllug, hy, wynebgaled; mentrus, herfeiddiol; dibetrus
bezañ h. ouzh ub. bod yn eofn/ ewn/hy ar rn; teimlo’n gartrefol gyda rhn
hardi2! adf yn enbyd! yn ddychryn(llyd)! yn ofnadwy! yn fawr iawn! lawer iawn! dros ben! yn eofn/ewn, yn hy; yn (blwmp ac yn) blaen, yn ddibetrus
kred ac’hanon h.! gelli fy nghredu’n iawn!
lar h.! dywed/dwêd yn ewn / (yn blwmp ac) yn blaen! dywed/dwêd beth sy’ ar dy feddwl di!
hardi(zh)egezh b. dewrder; beiddgarwch, digywilydd-dra, haerllugrwydd, hyfdra
rankout a rez gwerzhañ da vezh da brenañ h. rhaid i ti fagu croen caled (ffig.)
hardishaat be. dod/mynd yn (fwy) beiddgar/eofn/ewn/hy/mentrus
harellat be. poeni,aflonyddu (ar), blino, bigitan, plag(i)o, pryfoc(i)o, herian, pallu/’cau gadael llonydd (i); arteithio, poenydio
harem g. -où harem
harenk/harink g. -ed (y)sgadenyn, pennog
treut evel un h. yn denau fel (y)sgadenyn, yn fain fel pennog
harinked mogedet (y)sgadan/penwaig coch(ion) / wedi’u cochi drwy fwg, ciperau/cipers
harlikin g. -ed clown; actor mewn pantomeim
harlink g. goglais; enynfa, crafu, cosi
ober h. goglais; achosi/peri enynfa/cosi
harlinkat be. goglais; crafu, cosi
harlu g. alltudiaeth
bezañ en h. bod yn alltud
mont en h. mynd yn alltud
Roparz Hemon en em gave en h. en e vro e-unan teimlai Roparz Hemon yn alltud yn ei wlad ei hunan
harluad g. harluidi alltud, un wedi’i (h)alltudio
harluañ/harluiñ be. alltudio
harluet abf harluañ/harluiñ alltud, wedi’i (h)alltudio
harmonika g. -ioù harmonica
harnez g. -ioù harnais
harnezañ be. harneisio
harnezet abf harnezañ wedi’i harneisio (am anifail); wedi’i arfogi (am ddyn)
haroz g. -ed arwr
un h. eo Gwynfor atav mae Gwynfor yn arwr o hyd
harp1 g. -où cymorth, cynhorthwy, help, rhywbeth i bwyso arno; ateg, gwanas, postyn, stacer, prop; atalfa, rhwystr; hoe, saib, seibiant, gorffwys, egwyl
bezañ un h. a-zoare evit ub. bod o gymorth mawr i rn, bod yn gef(e)n mawr i rn
ma n’am bez ket h. ebet e kouezan os na bydd gen i / os na bydd ’da fi rywbeth i bwyso arno ’rwy’n cwympo/ syrthio
harp (en)2 ardd. yn agos iawn (i/at)
h. en aod yn agos iawn i lan y môr / i’r traeth
harp (ouzh/oc’h)3 ardd. yn pwyso/ gorffwys (ar / yn erbyn); yn dynn (wrth); yn ffinio (â)
h.-ouzh/-oc’h-h. yn dynn wrth/yn ei gilydd, yn cyffwrdd â’i gilydd, y naill yn dynn wrth/yn y llall
harpañ be. pwyso; cynorthwyo, bod o gymorth (i), helpu; cynnal; acennu, pwysleisio; atal, rhwystro; cael hoe/ saib/seibiant/egwyl/sbel, gorffwys; cadarnhau; gwrthwynebu; para / parhau’n braf, dal(a) yn braf (am y tywydd)
harp ar skeul ouzh ar voger dod yr ysgol (i bwyso) ar / yn erbyn y wal
marteze ec’h harpo ac’hann d’an noz (e)fallai y pariff /pery hi yn braf / y gwnaiff hi ddal(a) yn braf o hyn tan y nos
harpell b. -où prop, ateg
harpon g. -ioù trawslif, llif draws
harz1 g. -où rhwystr, atalfa; anhawster; ffin, terfyn
n’eus h. ebet dezhañ ’does dim atal arno, ’does mo’i rwystro, ’does dim a all ei atal/rwystro
h.-debriñ ympryd
h.-labour streic
h.-lamm parasiwt
h.-ha-h. yn ffinio â’i gilydd; och(o)r yn och(o)r, wrth/yn och(o)r/ymyl ei gilydd
harz2(añ) gw. herzel
harzer g. -ien gwrthsafwr, ataliwr; golwr, golgeidwad
harzet abf herzel qv.
harzh g. -ioù, harzhadenn b. -où cyfarthiad
harzhal be. cyfarth
harzhet abf harzhal qv.
a-benn/betek neuze hag ac’hanen/ a’hann di en do h. meur a gi bydd llawer tro ar fyd erbyn hynny, bydd sawl un wedi torri cwt/cynffon ei gi erbyn hynny, bydd llawer o ddŵr wedi mynd o dan y bont erbyn hynny
harzlabourer g. -ien streic(i)wr
harzlammer g. -ien parasiwtwr
hast1 g. brys, taro/taraf, hast
gant re a h. ar ormod(d) o frys/ hast, yn rhy frysiog/gyflym/glou
h. ’m eus da vont mae brys/taro/ taraf arna’ i fynd; ’rwy’n awchu/ysu am fynd
ober h. ouzh ub. llonni rhn, codi/ cwnnu calon rhn
hast2! bf 2 un gorch. hastañ qv.
hast (buan/a-fo)! brysia (ar unwaith)! mwstra!
hastañ be. brysio, mwstro, prysuro, hastu
he1! ebych. hei! hoi!
he2 rhage. bl. a mewn. 3 un. b. (o flaen cyts.) ei; ’i, ’w; hi
h. gwelet ’m eus fe’i gwelais (hi), gwelais i hi
h. mamm hag h. zad ei mam a’i thad, ei rhieni
bugale h. deus mae plant ganddi / gyda hi
desket h. doa ar gentel ’roedd hi wedi dysgu’r wers
en h. c’hichen yn ei hymyl, ar ei phwys
en h. c’haerañ ar ei gorau/hardda’, yn ei holl ogoniant
mont d’h. gwelet mynd i’w gweld
h.-unan ei hun(an), ar ei phen ei hun(an), wrthi'i hun(an)
he- rhagdd. hy-
hebiou adf heibio
mont/tremen h. mynd heibio
hebiou (da) ardd heibio (i)
h. (d’)an ti mynd heibio’r tŷ
mont/tremen h. dezhañ/dezhi mynd heibio iddo/iddi
skein/tennañ h. udb. methu cyrraedd rhyw nod neu’i gilydd
hebken gw. hepken
hebleg a. hyblyg; ystwyth
hebraeg g. Hebraeg
hebraek a. Hebraeg
Hebre g. -ed, Hebread g. -iz Hebread, Hebrëwr
hec'h rhage. bl. 3 un. b. (o flaen llaf.) ei
h.-unan gw. he
hed1(-gwenan) g. -où, hejoù(-gwenan) haid (o wenyn)
hed2 g. -où hyd
h. un taol maen o fewn ergyd carreg, ergyd carreg i ffwrdd
(a-)hed an noz ar hyd y nos, drwy’r nos, (drwy) gydol y nos
kaout h. e c’har / e votez cael ei draed yn rhydd
n’en devo nemet e h. hag e led ivez pa’z aio ac’hann ni fydd ganddo yntau ddim mwy na’i hyd a’i led pan aiff oddi yma, bydd yn rhaid iddo yntau adael y cwb(w)l ar ei ôl (pan fydd e farw), ’fydd dim poced yn ei amwisg yntau
h.-ha-h. ar/yn fy/dy/ei/ein/eich/eu hyd; yn llwyr/drylwyr; i gyd, yn gyfan gwb(w)l; o’r dechrau i’r diwedd, o’r naill ben i’r llall
h.-ha-h. ar bloaz ar hyd y flwyddyn, (drwy) gydol y flwyddyn, y flwyddyn ar ei hyd / o’r naill ben i’r llall, o ddechrau’r flwyddyn hyd ei diwedd
mont h.-ha-h. ar stêr mynd/ cerdded ar hyd glan yr afon, dilyn yr afon o’i tharddiad i’r môr
ober udb. h.-ha-h. gwneud rhth yn llwyr / yn drylwyr / i gyd / yn gyfan gwb(w)l, o’r naill ben i’r llall
hedal/hedañ/hediñ be. ymestyn; mynd ar hyd, dilyn (afon; wal ayyb.)
hedledan torf. a g. (bot.) (dail) llydan y ffordd, llwynhidydd mawr
hedorr a. brau, hawdd ei dorri/thorri
hedro a. anwadal, chwit-chwat, di-ddal, gwamal, oriog, ansad, penchwiban
h. evel an avel mor ansefydlog/ anwadal/wamal/chwit-chwat â’r gwynt
heg g. pla (ffig.), poendod; grym, gorfodaeth
h. a ra din mae’n gas gen’ i, mae’n dân ar fy nghroen i, ’alla’ i ddim godde’/ haru
dre gaer/het pe dre h. drwy deg neu drwy rym/orfodaeth, rywfodd/rywsut neu'i gilydd
kaout h. ouzh ub./udb. casáu rhn/rhth (â chas perffaith), methu (â) diodde’/ godde’/haru rhn/rhth, bod rhn/rhth yn dân ar ei groen/chroen
me am bez h. ouzh hounnezh mae honna’n mynd o dan fy nghroen i / codi fy ngwrychyn i / hala colled arna’ i / fy hala i’n benwan/wallgo’/ gynddeiriog / fy ngyrru i’n ynfyd, ’alla’ i ddim godde’/haru honna
ober h. d’ub. / ouzh ub. mynd o dan groen rhn, bod yn bla ar enaid rhn, codi natur/gwrychyn rhn, hala rhn yn benwan/wallgo’/gynddeiriog, gyrru rhn yn ynfyd, cynddeiriogi/ gwylltio rhn, gwneud i rn golli’i dymer/limpyn; poeni/plag(i)o/ pryfoc(i)o/diflasu rhn
ober an h. ouzh ub. poeni/plag(i)o/ pryfoc(i)o rhn; gwneud hwyl/sbort/sbri am ben rhn
hegal be. poeni, plag(i)o, pryfoc(i)o; tynnu coes/clun (ffig.)
hegañ be. arteithio, poenydio
hegarat a. hynaws, annwyl, rhadlon, addfwyn, tyner, tirion, caredig, ffein, clên
hegas/hegaz a. atgas; blinderus, poenus, plagus, pryfoclyd
hegaser/hegazer g. -ien poenyn, plag(i)wr, pryfocyn
hegasiñ/hegaziñ be. poeni, plag(i)o, pryfoc(i)o, bod yn bla ar enaid; cythruddo,cynhyrfu, codi gwrychyn
kuit dezhañ da h. den rhag iddo gythruddo neb / rhag iddo godi gwrychyn neb / rhag iddo ddamsang ar droed/gorn neb (ffig.)
hegasted b. poendod, pla (ffig.)
hegasus/hegazus a. poenus, plagus, pryfoclyd
heglev a. hyglyw, hawdd ei glywed
hegredik a. hygoelus, parod i gredu popeth
hegus a. blinderus, poenus, pryfoclyd
heiz torf. a g. haidd
heizez b. -ed ewig; (ffig.) merch fywiog, haden; putain
hej g. -où ysgydwad/ysgytiad, siglad
h. a zo gant ar gwez mae’r coed yn cael eu hysgwyd/siglo
ober un (tamm) h. d’ub./d’udb. ysgwyd/siglo rhn/rhth, rhoi ysgydwad/siglad i rn/rth
h.-dihej yn ysgwyd/siglo yn ôl ac ymlaen /lan a lawr / i fyny ac i lawr
un h.-e-revr un yn llawn clemau/ ystumiau/seans
hejadenn b. -où ysgydwad, ysgytiad, siglad
hejal/hejañ be. ysgwyd, siglo
h. per melen d’ub (ffig.). gorganmol rhn yn ei (h)wyneb, seboni rhn (ffig.), gwenieithio rhn
h. plouz d’ub. (ffig.) codi cynnen â rhn, ceisio cynhennu â rhn, cwnnu bigít â rhn; tynnu rhn am ei ben/phen
h.-dihejañ ysgwyd/siglo yn ôl ac ymlaen
hejellat be. ysgwyd/siglo yn ôl ac ymlaen yn ysgafn/ysgawn
hej-e-lost g. (aderyn) sigl-(d)i-gwt, sigwti fach, siglen fraith
hek a. atgas, annymunol, ffiaidd; croes, gwrthnysig, piwis
heklev a. -ioù atsain, carreg ateb
hektar g. -ioù hectar
hel rhage. mewn. gwrth. 3 un. gb. (o flaen l-) 'i, 'w
helavar a. huawdl
helebini g. cystadleuaeth
h. etrezo/etreze am y cynta’, am y gorau, yn cystadlu â’i gilydd, mewn cystadleuaeth (â’i gilydd)
h. ’zo etrezo/etreze mae hi’n gystadleuaeth rhyngddyn nhw
helenn a. darllenadwy, hawdd ei (d)darllen
heligentañ g. cystadleuaaeth
h. ’zo etrezo/etreze mae hi’n gystadleuaeth rhyngddyn nhw
helmoiñ be. penelino
helosk a. hawdd ei (l)losgi, hylosg, hyfflam
hemañ rhage. dang. g. hwn
h. bihan a zo skuizh mae’r un bach hwn / mae’r bychan hwn wedi blino
h. kozh yr hen ŵr hwn
h.-hen rhywun neu’i gilydd
hemolc’h1 a. gwasod
hemolc’h2 g. -ioù hela
hemolc'her g. -ien, hemolc’hiad g. -idi hel(i)wr
hemolc'hiñ be. hela; cwrso; erlid; gofyn tarw (am fuwch)
hen rhage. dang. 3ydd un g. hwn
h.-mañ-h., h.-ha-h. hwn a hwn, hwn a’r llall, hwn ac arall, hwn a hwn acw / hwn’co, rhywun neu’i gilydd
hen- (ffurf nas defnyddir ond yn rhagdd. mewn enwau llefydd ac o flaen enwau ieithoedd fynycha’) hen
(an) henamzer g. (y) cyfnod cynnar
henañ a. (gradd eithaf a ddefnyddir yn unig am blant o fewn teulu) hyna’
ar c’hoar h. y chwaer hyna’
Henbont e. lle Hennebont (ffurf lwg(w)r Ffrg.)
heñchañ be. arwain, tywys, cyfarwyddo, rhoi cyfarwyddyd (i), rhoi arweiniad (i), rhoi ar ben y ffordd
heñcher g. -ien arweinydd, tywysydd
heñchoù ll. hent qv
hendad g. -où hynafiad, cyndad
hendra g. -où, hendraezoù hen beth (celficyn; llest(e)r ayyb)
hendraour g. -ien gwerthwr hen bethau
hengembraeg g. Hen Gymraeg
hengembraek a. Hen Gymraeg
hengernev(veur)eg g. Hen Gernyweg
hengernev(veur)ek a. Hen Gernyweg
hengoun g. -ioù traddodiad
hengounel a. traddodiadol
henhont rhage. dang. g. hwnna, hwn acw/ hwn’co, ’nacw
h. ivez yntau, hwnna hefyd
heni rhage. gw. hini
heniwerzhoneg g. Hen Wyddeleg
heniwerzhonek a. Hen Wyddeleg
henn rhage. dang. g. gw. hen
hennezh rhage. dang. g. hwnnw, hwnna, e(f), fe, (f)o
h. ivez yntau, hwnnw/e(f)/fe/fo/o hefyd
henozh adf heno
hent g. -où, heñchoù ffordd, heol/hewl
H. ar Groaz Ffordd y Groes
H. Sant Jakez/Yann Y Llwybr Llaethog
bezañ a-dreuz/war h. ub. bod yn ffordd rhn, bod/sefyll yng ngolau rhn
diwar h. ub. o(ddi ar) ffordd rhn
diwall diwar h. ub. cadw ymhell o ffordd rhn, cadw draw o ffordd rhn, osgoi rhn
hennezh a ya daou du an hent gantañ, mont a ra gant an hent treuz-didreuz mae’n mynd igam-ogam ar hyd yr hewl, mae e’n mesur y ffordd (ffig. am ymlwybro meddwyn)
kas an h. dindan e dreid mynd ar garlam
kemer penn e h. d’ar gêr ei bwrw/ chychwyn hi tua thre’ / am adre’
ne dec’h ket diwar ma/va hent mae’n pallu mynd o’m ffordd i, mae’n gwrthod/’cau gadael i mi/fi fynd heibio
mont/skeiñ diwar an h. mat, mont/ skeiñ war an h. fall cyfeiliorni, mynd ar gyfeiliorn, gwyro oddi ar y ffordd iawn, colli’r ffordd
mont en h. dechrau ar ei ffordd, ei chychwyn hi
seul gent ez eer en h. seul gent e tegouezher cynta’ i gyd y cychwynnir cynta’ i gyd y cyrhaeddir pen y daith
un h. don ffordd wledig (rhwng cloddiau uchel)
ur fustad/flipad h., ur c’hwistad/ pennad/skrapad brav/mat a h. tipyn o ffordd, ffordd bell, cryn bellter (o ffordd)
war h. ar ffordd/heol/lwyb(y)r; yn y ffordd
h.-born/dall ffordd bengaead/bengoll, hewl hosan
h.-bras/-pras/-meur priffordd
h.-distro eilffordd
h.-houarn rheilffordd
h.-karr hewl gart, ffordd/lôn gert
h.-kev twnel
h.-Sant-Jakez/Jalm Caer Wydion, Caer Arianrhod
h.-tec’het allanfa dân/argyfwng
h.-treuz llwyb(y)r llygad/tarw, ffordd fer/fyrra’
kemer an h.-treuz torri llwyb(y)r llygad/tarw, tynnu plet, mynd y ffordd fyrra’
h.-tro dargyfeiriad, gwyriad; ffordd hir o gylch, amdaith
hentig g. -où llwybr (troed/trol), lôn, beidr/feidr, wtra
hentiñ be. (lle) mynychu; (person) gwneud (â), ymwneud (â); cyfeillachu (â); cymdeithasu/ cymysgu (â); caru (â), canlyn
h. an eisteddfod mynychu’r eisteddfod
h. bugale ar skolaer cyfeillachu â phlant yr ysgolfeistr / y sgwlyn
h. merc’h ar c’haner caru (â) / canlyn merch y canwr
en em h. canlyn, caru
heñvel (ouzh) a. tebyg (i), cyffelyb (i), hafal (i)
h. (dra) eo din man a man (a Sianco / mwnci) yw e/hi i fi, yr un fath ydy o i mi, yr un peth yw e i fi, ’dyw e’n gwneud dim gwahaniaeth i fi/mi, ’does dim gwahaniaeth/ots ’da fi / gen i
bezañ h. evel daou vi (moualc’h) bod mor debyg i’w gilydd â dau ŵy/wy (mwyalchen)
n’eus ket kalz a dud h. outañ ’does dim llawer o bobol yn debyg iddo, ’does dim llawer o’i debyg (i’w cael)
ober h. ouzh ub. gwneud yn debyg i rn, efelychu/copïo rhn; dynwared rhn
h.-bev/-buhez/-Doue/-mik/-poch/-pakret/-vi/-rik eo ouzh e dad mae’n gymwys/gywir/union fel ei dad, mae yr un boerad/ffunud â’i dad
h.-h. yn gymwys/union yr un fath/ peth; (yn )yn yr un dull/ffordd/modd
heñvelaat be. ymdebygu; dod/mynd yn debyg/debycach (i’w gilydd)
en em h. ouzh ub. ymdebygu i rn, dod/mynd yn debyg/debycach i rn; efelychu rhn
heñvelder g.-ioù tebygrwydd
heñveledigezh/heñvelidigezh b. -ioù tebygrwydd; cydweddiad
dre h. ouzh verboù all drwy gydweddiad â berfau eraill
heñvelout (ouzh) be. bod yn debyg (i), bod yn gyffelyb (i)
heñvelson a.o’r un sain, o gyffelyb sain
heñvelster a. cyfystyr
henvoaz g. -ioù traddodiad, hen arferiad
henvoazel a. traddodiadol
henvrezhoneg g. Hen Lydaweg
henvrezhonek a. Hen Lydaweg
heol g. -ioù haul; golau/goleuni
h. al loar, an h. loar golau’r lleuad
h. a sav re vintin a zo techet da wall fin haul y bore : mynych gawode, haul y bore : byth ni bydd yn parhau/para drwy gydol dydd
emañ an h. war e dreuzoù (dezhañ) / he zreuzoù (dezhi) mae’n hen
eus an eil h. d’egile o godiad haul hyd ei fachlud, o fore (gwyn) tan nos
gwelet tri h. o parañ (ffig.) gweld sêr (ffig.)
pa gomzer eus an h. e weler e sklerijenn gw. komz
tomm eo en h. ! mae( hi)’n dwym/ boeth yn yr haul!
heoliañ be. eistedd/gorwedd yn yr haul, bolaheulo/torheulo; dodi/rhoi yn yr haul
heoliek a. heulog
hep1 ardd. heb
h. arsav/diskrog/distag/ehan(añ)/ paouez yn ddi-baid/ddibaid/ddi-stop, heb stop, yn barhaus
h. bete(k)-gouzout yn ddiamod
h. chom da dermal/dortañ heb betruso/oedi, yn ddibetrus/ddi-oed
h. dale(añ) yn ddi-oed, heb oedi
h. d’ar c’hi harzhal heb i’r ci gyfarth
h. douetañs/mar (ebet), h. mar na marteze heb os (nac oni bai), yn ddi-os, yn ddi-amau, heb amheuaeth, yn ddi-ddadl, yn bendifadddau
h. gouzout dezhañ yn ddiarwybod iddo, heb yn wybod iddo
h. ket a heb ddim (o)
h. ken mizoù heb ddim costau/ treuliau ychwanegol; heb ddim costau cludiant
h. netra holl/tout heb ddim oll / yn y byd
chom/mont/tremen h. udb. bod/mynd heb rth, amddifadu’i hun(an) o rth
hep2! ebych. hoi!
hep ma cys. heb (i)
h. ma ouie yn ddiarwybod iddo/iddi, heb yn wybod iddo/iddi
hepdale adf yn ddi-oed, yn ddiymdroi
hepdon; hepdout; heptañ; hepti; hepdomp; hepdoc'h; hepto/hepte ffurfiau persl ar yr ardd. hep qv.
hep(mui)ken/hep-mui adf yn unig, heb ddim mwy/rhagor
heptañ; hepti; hepto/hepte ffurfiau persl ar yr ardd. hep qv.
her1 rhage. mewn. gwrth. 3 un. 'i, 'w
her2 a. dewr, eofn/ewn/haerllug, hy; mentrus; byrbwyll; herfeiddiol
bezañ h. gant ub./udb. bod yn ddwl am rn/rth, dwlu/gwirioni/ mopio ar rn/rth
n’on ket h. war ar skrivagner-se ’dwy’ i ddim yn or-hoff o’r awdur yna
hêr g. -ed etifedd, aer
herberc'h g. llety, lloches; cysgod
H. Yaouankiz Hostel Ieuenctid
reiñ h. d’ub. rhoi llety i rn, lletya rhn
herberc'hiañ be. lletya, llochesu, rhoi llety/lloches (i)
herder g. byrbwylldra; haerllugrwydd, hyfdra
Here1: miz Here g. mis Hydre’
here2 g. cynhaea’; tymor yr hydre’, pryd hau, pryd bwrw pluf
ober an h. hau
heresi b. -où heresi
heretik a. a g. -ed heretic
hêrezh b. -ioù etifeddiaeth
kaout udb. en/a/da/dre h. digant ub. cael/etifeddu rhth ar ôl rhn
hêrezhel a. etifeddol
heritaj g. -où etifeddiaeth
heritañ be. etifeddu
heritour g. -ien etifedd
herlegon g. -ed crëyr bach copog
herlink g. goglais/gogleisiad, coglais/ coglish
ober (un tamm) h. d’ub. goglais/ gogleisio/coglais/coglish rhn
herlinkat be. goglais/gogleisio, coglais/coglish
herlinkus a. gogleisiol/cogleisiol
hern ll. houarn qv.
h.-kezeg ll. houarn-kezeg qv.
hernach/hernaj g. -où haearnach, offer haearn, peth(eu)ach haearn
heroin g. heroin
herr g. cyflymder/cyflymdra; brys
h. warnon a finnau ar frys
a-benn h., gant h. ar frys/garlam/ wib, yn gyflym/glou
laka(a)t h. en e gilhoroù rhoi’i draed yn y tir (ffig.), ei baglu/heglu/ sgathru hi; dodi rhn i fynd (â’i draed lan), rhoi cwrs i rn, gyrru rhn ymaith yn ddiymdroi
roet e oa h. deomp! fe gawsom ni gwrs! fe gawsom ni fynd yn ddiymdroi / â’n traed lan!
herrad (amzer) g. ysbaid, ychydig (o amser), cetyn
un h. war-lerch chwap wedyn, cyn pen fawr o dro
herrañ a. gradd eithaf herr qv. ac adf
h. ma c’hall cyn gynted ag y gall, gynted fyth ag a all
herrek a. brysiog; cyflym, buan, clou; chwyrn
Herri epg. Harri
herroc’h a. gradd gymh. herr qv. ac adf cynt; yn gynt
mont h. mynd yn gynt
herroc'h-herrañ adf yn gynt ac yn gynt
herrvag b. -où cwch/bad cyflym, gwibgwch/gwibfad
hervez1 adf mae'n debyg, yn ôl pob tebyg/golwg
hervez2 ardd. yn ôl
h. a glevan / a lavarer /a vez lavaret, h. ar brud, h. kont yn ôl y/pob sôn, yn ôl y siarad, yn ôl (yr hyn) a glywa’ i, medden nhw
h. boaz/kustum yn ôl yr arfer
h. ar c’hiz yn ôl y ffasiwn; yn ôl yr arfer
h. ar ouizieien yn ôl y gwybodusion
h. ho koud mae’n dibynnu ar eich chwaeth, yn ôl eich chwaeth, yn unol â’ch chwaeth
an Aviel hervez sant Yann yr Efengyl yn ôl (sant) Ioan
bezañ h. dibynnu
se ’zo h. mae hynny’n dibynnu
hervez ma cys. (yn ôl ) fel y
h. ma vo an amzer mae’n dibynnu ar y tywydd, yn ôl fel y bydd y tywydd, fe gawn ni weld siwd bydd y tywydd
hervezon; hervezout; hervezañ; hervezi; hervezomp; hervezoc'h; hervezo/ herveze ardd. hervez qv.
herzel (ouzh;dirak) be. atal (rhag), rhwystro (rhag), bod yn dramgwydd (i); gwrthsefyll, gwrthwynebu, nacáu, nadu; ymgynnal; ymwrthod (â), ymgadw (rhag); cyfyngu (ar); (a)rest(i)o
h. ub. a ober udb.atal/rhwystro rhn rhag gwneud rhth
harz al laer! ataliwch/stop(i)wch y lleidr!
harzit ho ki da zont en ti rhwystrwch/stop(i)wch eich ci rhag dod i mewn i’r tŷ
amañ e kreiz ar gas n’eus ket a voien da h. yma yn nannedd y gwynt ’does dim modd sefyll ar eich traed / ei wrthsefyll
n’on ket gouest da h. dirak ur pladad sivi Plougastell ’alla’ i ddim ymatal o flaen plataid o syfi/fefus Plougastel
herzh(ier) ll. horzh qv.
hesent a. dof, hydrin, hawdd ei drin/ thrin, ufudd, tawel
hesk1 a. hesb
mont da h. mynd yn hesb
ur vuoc’h h. buwch hesb
hesk2 g. hesg
hesked g. -où, heskidi (medd.) crynhofa, cornwyd, pendduyn
heskenn1 b. -où llif (offeryn)
heskenn2 b. -ed buwch hesb
heskennat be. llif(i)o
heskenner g., heskennour g. -ien llif(i)wr
heskennerez b. llif fecanyddol
heskidi ll. hesked qv.
heskinañ be. erlid; cam drin; poeni, pryfoc(i)o; blino, aflonyddu (ar)
heskiner g. -ien erlidiwr; poenwr
heskinerezh g. erlid, erledigiaeth
heskinus a. atgas
heson a. melodaidd, persain, mewn cytgord
hesonerezh g. cynghanedd (cerdd.), cytgord, perseinedd
hesp a. hesb
het g. -où dyhead, dymuniad
dre h. pe dre heg drwy deg neu drwy drais
hetoù dymuniadau (cyfarchion)
hetoù mat dymuniadau da
hetiñ be. dymuno
h. bloavezh-mat d’ub. dymuno blwyddyn newydd dda i rn
ur rannig h. eo ra geiryn eiddunol yw ra
heud g. -où hual, llyffethair
heudañ be. hualu, llyffetheirio
heug g. cas, atgasedd, ffieidd-dod, ffieidd-dra, syrffed
h. am eus (ouzh) mae’n gas ’da fi / gen i, ’rwy’n casáu/ffieiddio, ’does ’da fi gynnig (i/o)/feddyg (o) (ar laf.), ’alla’ i ddim haru (ar laf.)
erru h. gant ub./udb. wedi alaru/ diflasu/syrffedu ar rn/rth, wedi cael digon/syrffed/ llond bol(a) ar rn/rth
reiñ h. d’ub. troi ar rn, troi ar stumog rhn, codi cyfog/pwys ar rn
heuget abf heugiñ qv.
dont da vezañ h. ouzh ub./udb. alaru/diflasu/syrffedu ar rn/rth, cael digon/syrffed / llond bol(a) ar rn/rth
heugiñ (ouzh) be. ffieiddio, casáu; diflasu/alaru/syrffedu (ar), cael digon/syrffed/ llond bol(a) (ar)
heugus a. ffiaidd, atgas; tröedig, cyfoglyd
heul g. -ioù ôl, trywydd; dilyniant, parhad
da h.1 (adf) i barhau; yn dilyn, dilynol, hefyd, ar ben hynny, yn ogystal/ychwanegol, yn sgil hynny, yn rhinwedd hynny; ar yr un pryd, o dan ’r un
da h.2 (ardd.) ar ôl, yn dilyn, yn sgil, yn rhinwedd
da h. al labour emañ ar boued / e teu ar boued drwy chwys dy dalcen y bwytëi fara, rhaid corddi cyn ceir menyn, rhaid torri’r masgl cyn cael y gneuen; y ci a gerddo a gaiff (asgwrn i’w bilo)
da h. ar bleiz ned a ket an oan ni wna y llygoden ei nyth yng nghwt/ nghlust y gath
an hini a zalc’h an askorn a yelo ar c’hi da h. e zorn arian sy’n rheoli’r byd
d'am heul; d'az heul; ayyb. ar fy ôl; ar dy ôl; ayyb.
mont da h. dilyn; mynd ar ôl
mont war h. ub. dilyn rhn, efelychu rhn, cymryd rhn yn esiampl
heuliad g. -où hebryngiad, gosgordd; cyfres; dilyniant
h. ar c’houlzoù-amzer cylchred y tymhorau
un h. gwetourioù rhes o geir
heuliañ be. dilyn, canlyn; olynu
h. alioù/kuzulioù ub. dilyn argymhellion/cynghorion rhn
h. e benn dilyn ei drwyn
h. roudoù ub. dilyn (yn ôl troed) rhn; efelychu rhn
h. pizh alioù ar mezeg dilyn cyarwyddiadau’r meddyg yn ofalus
en em h. caru, canlyn (am bâr wedi ymserchu yn ei gilydd); dilyn ei gilydd (un ar ôl y llall)
heulier g. -ien dilynwr; olynydd
he-unan adf ei hun(an), ar ei ben/phen ei hun(an)
heureuchin g. -ed draenog; (ffig.) hen ddyn pigog/ceintachlyd
heuz1 a. meddal; diflas; di-flas
heuz2 g. -où esgid uchel, botasen
hevelebekaat be. cyffelybu
hevelebiezh b. cyffelybiaeth
hevelep a. cyffelyb, tebyg
h. pouez - h. priz yr un pwysau - yr un pris
h. mamm - h. merc’h / h. tad - h. mab fel y bydd y fam y bydd y ferch / fel y bydd y tad y bydd y mab; mae natur/ blas y cyw yn y cawl, cyw o frid yw, tebyg i’r dyn y bydd ei lwd(w)n, fel y crafa’r iâr y piga’r cyw, llathen o’r un brethyn (yw), pob rhyw genhedla ei debyg
an h. amzer tywydd tebyg
an h. deiz/devezh yr un dydd/ diwrnod
an h. pouez yr un bwysau, yn pwyso’r un faint
an h. tra yr un peth
d’an h. koulz yr un adeg/amser/ pryd
hevelep ma cys. fel y
hevelepekaat be. cymathu
hevelepekadur g. cymathiad
heverk a. hynod, nodedig
heverz a. amlwg
hevlene adf eleni
hewerzh a. hawdd ei (g)werthu, â gwerth arno/arni
hey! ebych. hei!
hezoug a. cludadwy, (sy)mudol
pellgomzer h. ffôn sumudol/fudol/ boced/fach
hi rhage. 3 un. b. hi
h. ivez hithau
-hi rhage. ôl 3. un. b. -hi
hiboud g. -où murmur, sibrwd, siffrwd, sisial; enllib, athrod, absen
hiboudiñ be. murmur, sibrwd, sisial; enllibio, athrodi, absennu, difrïo; bradychu
hidrokarbiden b. -où hydrocarbon
hidrogen g. hydrogen
hi-fi b. hei-ffei
higenn b. -où bachyn (pysgota); abwyd
un h. a zen (ffig.) un/dyn cyfrwys, hen gadno (o ddyn), bachgen/bachan bore (ar laf.)
higennañ be. bachu, dal(a) â bachyn
higolenn b. -où carreg hogi, agalen; (ffig.) person diwerth / da-i-ddim
hij g. gw. hej
h.-dihij gw. hej-dihej
hijal/hijañ be. gw. hejal/hejañ
hik g. -où ig
an h. a gresk ar bihanig - hag a lazh ar re gozh / ar c’hozhig mik ig ar blentyn : tyfiant - ig ar hen ddyn : methiant
emañ an h. gantañ/ganti, paket en/he deus an h. mae’r ig arno/arni
hikat/hik(et)al be. ig(i)an
hil g. hil, ach, llinach
hili g. saws; finegr piclo
hilienn b. -où saws
h. fetis saws trwchus
hillig g. goglais/gogleisiad, coglais/coglish
ober (un tamm) h. d’ub. goglais/ gogleisio/coglais/coglish rhn
hilligañ/hilligat be. goglais/gogleisio, coglais/coglish
hilligus a. gogleisiol/cogleisiol
himn g. -où emyn; anthem
hin b. hinsawdd; tywydd
hindi g. hindi
hindouad g. hindouiz hindŵ
hindouegezh b. hindŵaeth
hini rhage. gb. un, sawl, neb
h. an tu all y dyn/gŵr drws nesa’; y fenyw/wraig/ddynes drws nesa’
h. bihan un bach, bychan
h. ebet (gyda bf neg.) dim un/neb (yn y byd / o gwb(w)l) dim / yr un enaid byw o neb, dim undyn byw
h. hag h. un ar y tro, bob yn un ac un, un / y naill ar ôl y llall, fesul un
h. pe h. rhywun (neu’i gilydd)
an h. a ra yr un / y sawl sy’n gwneud
me an h. a ra fi sy’n gwneud
an h. all y llall
an h. kozh yr hen un; yr hen ŵr; (gŵr rh.) hwn’co sy ’da fi, nacw, y gŵr ’co
an h. gozh yr hen un, yr hen wraig; (gwraig rhn) hon’co sy ’da fi, y wraig ’co, nacw, yr hen fodan
kement h. pob un
pep a h. un bob/yr un, bob o un
pep h. pob un; pawb, pob copa walltog, pob un wan jac
pep h. (en) e dro / d’e dro pob un yn ei dro
pep h. e vicher (ha ne daio al laezh gant ar c’hizhier), da bep h. da gas e erv da benn pob un â’i waith
pep h. evit e gont/sac’h pawb drosto’i hun(an) (a Duw dros bawb)
va/ma h. (din-me), da h. (dit-te), e/he h. (dezhañ/dezhi), hon h.dimp-ni), hoc’h h. (deoc’h-c’hwi), o h. (dezho) f’un i, d’un di ayyb.
h.-ha-h. un ac un, bob yn un, un ar y tro, un ar ôl y llall, fesul un
h.-kreñv diod gadarn, gwirod
hiniennoù rhage. ll. rhai, ambell un
h. a chom c’hoazh mae rhai ar ôl o hyd, mae ambell un ar gael o hyd
a-h. un ar y tro, (bob yn) un ac un, fesul un
hinkin1 g. -où blaen gwerthyd; gwerthyd
hinkin2 g. -ed pibonwyen, cloch iâ; (ffig.) delff, loba, llabwst, hwlcyn; hen gadno/ lwynog (o ddyn), un cyfrwys; un anhywaith
h.-maen-bolz stalactid
h.-maen-leur stalagmid
hinnoadenn b. -où nâd
hinnoal be. nadu
hinon b. hindda, hinon
hinouriezh b. meteoroleg, astudiaeth o’r tywydd
kreizenn h. canolfan dywydd
hipi g. -ed hipi
hir a. hir; pell
h. e/he fri busnesgar
bezañ re hir e deod / he zeod siarad gormod(d); dweud gormod(d)
dre h. basianted drwy hir amynedd, â llawer o amynedd
dre h. derc’hel da labourat drwy ddal ati i weithio am amser (hir/maith), drwy ddyfal donc
en/ez h. yn hir; yn fanwl; ar/yn ei hyd
displegañ en/ez h. disgrifio’n fanwl
troc’hañ ar mezer en/ez h. torri’r defnydd ar/yn ei hyd
familhoù h. teuluoedd mawr/niferus
kafe h. coffi dwrllyd/gwan
re h. ez ez! ’rwyt ti’n mynd yn rhy bell! ’rwyt ti’n mynd dros ben llestri!
sistr h. seidr â dŵr ar ei ben
hiraat be. ymestyn, dod/mynd yn hirach, tyfu
hiraezh b. hiraeth; brys, ysfa
hiraezhiñ be. hiraethu
hiraezhus a. hiraethus
hirañ a. gradd eithaf hir qv. hira’, hwya’; pella’
h. amzer : aesañ labour cymer amser ac fe wnei bopeth yn gynt, mwya’r brys - mwya’r rhwystr
d’an h. fan bella’/ man pella’; ar y mwya’
hirbad a. hir ei barhad/pharhad, (sy’n) para’n hir, hirhoedlog; (cref.) tragwyddoldeb
en h. yn nhragwyddoldeb
hirc’harek a. hirgoes
hirded b., hirder g. hyd, meithder; pellter
hirgarrezek a. hirsgwar
hirgelc’hiek a. hirgron
hirhoal g. henaint
hirio/hiriv adf gw. hiziv
hiris g. -où cryndod, cryd, echryd; arswyd, aeth, braw, dychryn, ofn; erchylltra
hirisus a. echrydus, erchyll; arswydus, aethus, brawychus, dychrynllyd, ofnadwy
hirnezh b. hiraeth
hiroc’h a. cymh. hir qv. hwy, hirach; pellach; mwy, rhagor
h. e vañch eget e vrec’h â dwylo blewog, yn methu cadw’i bumpau/fachau yn llonydd
h. eget/evit kant lur saoz dros gan punt, mwy na chan punt
da c’hortoz gouzout h. (hyd) nes y ceir mwy o wybodaeth, (hyd) nes y ceir gwybod mwy/rhagor, tra’n disgwyl gwybodaeth bellach; yn y cyfamser
hep daleañ h. heb oedi’n hwy, heb oedi mwy/rhagor/ymhellach
n’oa ket aet h. eget Landi ’aeth e/hi ddim pellach/ymhellach na Landi
n’ouzon ket h. ’dwy’ i ddim yn gwybod dim mwy/rhagor/pellach
ne’m boa ket goulennet h. ’wnes i ddim holi mwy, (ni) holais i ddim rhagor/pellach/ymhellach
hiron1 a. cymysgryw, croesryw
hiron2 g. -ed un cymysgryw/croesryw, hybrid, mwngrel
hirvoan a. hirfain
hirvoud g. -où ochenaid; griddfan
hirvoudenn b. -où ochenaid
hirvoudiñ be. och(e)neidio; griddfan
hirwel a. hirwel, hir ei (g)olwg
hisañ be. hysian/hysio, annos
hiviz b. -où blows(en), crys (merch); fest (merch)
laret udb. etre he h. hag he chouk dweud rhth wrthi’i hun(an) / o dan ei hana(d)l, siarad â hi’i hun(an)
peg eo he h. ouzh he c’hein mae’n (wraig) gybyddlyd/grintachlyd/dynn/fên
ober tro lost an iliz araok ober tro lost an h. priodi’n wyry’
war gorf he h. / a-bouez he h yn ei blows(en)/chrys (heb ddim cot), yn llewys ei chrys
h.-ar-Werc’hez (bot.) y ladi wen, cwlwm/perfedd y cythraul, taglys
h.-noz gwn/crys nos, coban
war he h.-n. edo/’oa ’roedd hi yn ei gwn/chrys nos, ’roedd hi yn ei choban
hiviziken adf o hyn ymlaen/allan/ i mas, bellach, mwyach
hiziv/hiriv adf heddi(w)
h. a-benn sizhun/eizhtez, h. penn-sizhun wythnos i heddiw (yn y dyfodol)
gra h. ar mad/pezh a c’helli - warc’hoazh marteze e varvi nac oeder hyd yfory yr hyn a ellir ei wneud heddi’
gwechall diouzh gwechall ha h. diouzh h. rhaid symud gyda’r oes, i bob peth ei gyfnod
kelaouenn h. papur heddi(w)
ho rhage. 2 ll. (o flaen cyts.) eich
h. kelver a rin fe’ch galwaf, fe alwa’ i arnoch
h. kwreg eich gwraig
h. taou/tiv eich dau/dwy, y ddau/ddwy ohonoch
h. trugarekaat! diolch (i chi)
petra h. po? beth gymerwch/ fynnwch chi? beth gewch chi?
hoal gb. swyn, atyniad, apêl
hoalañ be. cyfareddu, hudo, swyno
hoalen g. gw. c’hoalen a holen
hoalus a. swynol, hudol, cyfareddol, atyniadol, dengar, deniadol
hobregon g. -où arfwisg
hoc’h1 g. -ed mochyn; baedd
fest an h. swper lladd mochyn
h.-dreinek draenog
h.-koad mochyn y coed, gwrachen ludw
h.-gouez baedd gwyllt/coed, twrch
ur penn-h. mochyn
hoc’h2 rhage. bl. 2 ll. (o flaen llaf.) eich
(hag) amzer h. eus? (a) oes amser gennych chi / gyda chi?
(hag) a-walc’h h. eus? (a) oes gennych chi / gyda chi ddigon?
(ha) klevet h. eus? (a) glywsoch chi?
h.-unan eich hun(an), eich hun(ain)
ur penn-h. (un) mochyn
hogen cys. ond, fodd bynnag
hogos/hogozik adf bron iawn
h. a-vent gant da dad out ’rwyt ti bron iawn yr un faint/daldra â dy dad, ’rwyt ti bron iawn mor dal / bron iawn cyn daled â dy dad
h. netra y nesa’ peth i ddim
ur vaouezig bitik tout e oa hi - h. ur gorriganez gwraig fach fitw oedd hi - bron iawn yn goraches
hol rhage. bl. 1 ll. (o flaen l ) ein
ho(a)len g. -où halen
bezañ h. kras en e revr mae e fel petai llyngyr arno, mae ganddo gynrhon yn ei din
plac’h/gwrac’h an h. y wraig a gariai baban i’r eglwys (Babyddol) i’w fedyddio
holl1 a. holl, i gyd
an h. draoù yr holl bethau, y pethau i gyd
ar bed h. yr holl fyd, y byd i gyd / yn grwn
holl2 adf oll; i gyd, yn gyfan gwb(w)l, yn hollol, yn llwyr
an ti pellañ h. y tŷ pella’ i gyd, y tŷ pen
ar re all h. y lleill i gyd
er penn kentañ h. yn y dechrau i gyd, yn y dechrau’n deg, yn y cychwyn cynta’
kement tra h. y cwb(w)l oll / i gyd, popeth
ankounac’haet-h. yn gwb(w)l/llwyr angof, wedi’i (h)hanghofio yn glwt/llwyr / gyfan gwb(w)l
brein-h. eo ar c’hoad mae’r coed/ pren yn hollol bwd(w)r / yn bwd(w)r mall, mae’r coed/pren wedi pydru i gyd / yn llwyr
dispont-h. heb ofni dim; yn gwb(w)l ffyddiog
graet em eus va gwellañ-h. fe wnes i fy ngorau glas/glân
gwad-h. yn waed i gyd, yn llawn gwaed
kement-se-h. hynny i gyd
re bell-h. eo mae’n llawer rhy bell
(an) holl3 rhage. pawb; popeth, (y) cwb(w)l/cyfan
h. omp breudeur ’rŷm/’rydym ni i gyd yn frodyr (i’n gilydd)
an h. gwitibunan, an h. betek an hini diwezhañ pawb yn ddiwahân / yn ddieithriad
an h. ne oant ket a ali war-se ’doedd dim pawb yn gytûn/cytuno ar hynny
a-wel d’an h., dirak an h. yng ngolwg/ngŵydd pawb, o flaen pawb, ger bron y cyhoedd, yn gyhoeddus
en h. i gyd; a chyfri’ pawb; a chyfri’ popeth
pegement eo en h.? faint yw e i gyd? faint yw e rhwng popeth? faint yw’r cwb(w)l/cyfanswm?
kant den ’zo en h. mae cant o bob(o)l i gyd / rhwng pawb
evit an h. i bawb
an heol a sked evit an h. mae’r byd i bawb fel ei gilydd
evit mad an h. er budd/lles pawb
goude h. wedi’r cwb(w)l
gouez d’an h., hervez an h. yn ôl pawb, mae pawb yn dweud
hogos/hogozik h., peuz-h. bron popeth, popeth bron; pawb bron, bron pawb
hollad g. -où cyfanswm; swm
Holland b. yr Isalmaen
hollandad g. hollandizien Isalmaenwr
hollandeg g. isalmaeneg
hollandek a. isalmaeneg; isalmeinig
hollc'halloudek a. hollalluog
An H. Yr Hollalluog
hollek a. cyffredinol; hollgynhwysol; byd-eang
ar steuñv h. y cynllun i gyd / yn ei gyfanrwydd
Hollsent: an Hollsent ll. yr Holl Saint
Gouel an H. Gŵyl yr Holl Saint, calan gaea’, y 1af o Dachwedd
hollved g. hollfyd
hollvedel a. cydwladol, - yr hollfyd
hollvrezhonek a. cyfan gwb(w)l Lydaweg
hollvrudet a. tra enwog, adnabyddus iawn/ dros ben
ho(u)mañ rhage. dang. b. hon
homelienn b. -où homili, pregeth
homeopat1 a. homeopathig
homeopat2 g. homeopath
homeopatiezh b. homeopatheg
hon rhage. bl. 1 ll. (o flaen llaf., n, d, t ac h) ein
deuit d’hon gwelet dewch i’n gweld
h.-daou ein dau, y ddau ohonon ni
h.-unan ein hunain
h.-ha-h. hon-a-hon, beth ych chi’n galw
honhont rhage. dang. b. hon'na, hon acw, honco (ar laf.), nacw (ar laf.)
honn-ha-honn rhage. amh. b. beth-ych-chi’n-galw, pwy ’ma
an dim. h.-ha-h. miss beth-ych-chi’n-galw
honnezh rhage. dang. b. honno, hi
h. ivez hithau, honno/hi hefyd
hont a. dang. acw
hop g./hopadenn b. -où bloedd, gwaedd (unigol)
hopadeg b. -où bloedd, gwaedd (torf, ar y cyd)
hopal be. bloeddio, bytheirio, gweiddi, galw'n uchel
h. da ub. galw/gweiddi ar rn
hopala! ebych. o! ho! ho! o! diar! diar!
hoper g. -ien bloeddiwr, gwaeddwr; clebrwr/clebryn uchel ei gloch
h.-noz gwdihŵ, tylluan frech
hor rhage. bl. 1 ll. (o flaen cyts. ac eithrio n, d. t. h ac l) ein
debret hor boa ur pred a-zoare e Lodonneg fe gawson ni bryd arbennig yn Lodonneg
deuet e oant d’h. selaou o kanañ ’roedden nhw wedi dod i wrando arnon ni’n canu
hordenn b. -où llwyth, baich; bwndel, swp/sypyn; ysgub
h.-geuneud bwndel/swp/sypyn o goed tân
horjell-dihorjell adf yn gwegian, yn sigledig/simsan(u); yn siglo / yn ysgwyd yn ôl ac ymlaen; yn chwit-chwat, yn ddi-ddal, yn fympwyol, yn oriog
horjellañ/horjellat be. gwegian, simsanu; siglo, ysgwyd; gwamalu
horjellus a. simsan, sigledig, ansad, yn siglo/ysgwyd yn ôl ac ymlaen
hormon g. -où hormon
horolaj/horolach g. -où cloc
h. ar c’harr-tan cloc y car
h. an tizh y cloc cyflymdra
abred/araok emañ an h., avañs ’zo gant an h. mae’r cloc yn glou/fuan, mae’r cloc ymlaen / yn ennill
diwezhat eo an h. mae’r cloc ar ôl / ar ei hôl hi / yn colli amser
pemp eur (h.) e rankas gedal bu’n rhaid iddo/iddi aros (am) bump awr (yn ôl y cloc)
h.-heol deial haul
horolajer/horolacher g. -ien cloc(i)wr, gwneuthurwr clociau; trwsiwr clociau
horrol1 a. echrydus, arswydus, aethus brawychus, dychrynllyd, ofnadwy
horrol2 g. erchylltra, aeth, arswyd, braw, dychryn, ofn
horrupl a. erchyll, echrydus, arswydus, brawychus, dychrynllyd, ofnadwy
hortensia g. a thorf. (bot.) tri-lliw-ar-ddeg
horzenn b. -où gw. hordenn
horzh b. -ioù, herzhier gordd
bezañ tapet/paket etre an h. hag ar c’henn cael ei (d)dal(a) rhwng y diafol a’i gynffon
hoskellat be. osgiladu; gwegian, simsanu; siglo/ysgwyd yn ôl ac ymlaen
h. ar babig magu’r babi, siglo’r crud
hoskellerezh g. symudiad yn ôl ac ymlaen, pendiliad
houad g. houidi ceiliog hwyad(en), meilart; hwyad(en); (ffig.) bachgen rhagorol
houal be. hwtian (gwdihŵ)
houarn1 g. -où haearn; teclyn/offeryn/ peth haearn; cyffion
skeiñ war an h. keit ha ma vez tomm, skeiñ war an tomm pa vez ruz an h. taro’r haearn tra bo’n boeth
un h. distennañ haearn smwdd(i)o, stil
ur galon h. calon garreg/galed
h.-gwenn alcam,tun
h.-teuz haearn bwrw
marc’h-h. beic
houarn2(-marc’h/-kezeg) g. hern(-kezeg) pedol
houarnadur g. -ioù darn o waith haearn; rhuddad, ôl haearn twym/ poeth
houarnaj/houarnach g. -où haearn sgrap, haearnach
houarnañ be. pedoli; rhoi haearn ar rth (olwynion car, esgid ayyb.)
h. ub. rhoi rhn mewn cyffion
houarner(-kezeg) g. -ien gof, ffarier
houarnerez b. -ed gwraig yn smwdd(i)o/stilo (penwisgoedd ayyb.)
houbañ be. mynd yn sownd; cael ei ddal(a) wrthi
houidi ll. houad qv.
houl1 g. -où, -eier ton; cyffro (am dorf/dyrfa)
houl2 torf. -enn b. ymchwydd
houlennañ be.tonni, ymffurfio’n donnau; ymchwyddo, dygyfor
houlennus a. tonnog, yn donnau uchel, garw, tymhestlog (am y môr)
houmañ rhage. dang. b. hon
hounhont rhage. dang. b. honna, hon acw, hon’co (ar laf.), ’nacw (ar laf.)
hounnezh rhage. dang. b. honno, hi
h. ivez hithau, honno/hi hefyd
houp! ebych. hwpala!
houpañ be. codi/cwnnu’n uchel (yn ei freichiau/breichiau); halio
houperig g. -ed (aderyn) copog; dyn hygredig / hawdd ei dwyllo
houpez ll.(bot.) hopys
houpiñ be. codi/cwnnu’n syth (i fyny) (am wallt neu bluf)
houstañ be. gwisgo/taclu’n grand/ swanc, gwisgo/taclu’n chwaethus, torri cýt; pinco’i hunan, ymbincio
hu1 g. bloedd/gwaedd (watwarus), bloeddio/gweiddi (dirmygus), bŵan/ bwio, hwtiad/hwtio/hwtian
ober an h. ouzh/war ub. gwatwar rhn, bŵan/bwio rhn, gweiddi/ bloeddio’n ddirmygus/wrthwynebus ar rn, gweiddi ar draws rhn, hwtio/ hwtian rhn
- hu2 (= c'hwi) rhage. ôl 2 ll. ch(w)i
emezit-h./’mit-h. meddech chi
piv oc’h-h.? pwy (yd)ych chi?
hual g. -où hual, llyffethair
hualañ be. hualu, llyffetheirio; cadwyno, rhoi mewn cadwyn/ cyffion
hualet abf hualañ qv.
huan g. ll(u)wch mân
huanad g. -où ochenaid; tristwch, galar, ing, trallod
leuskel e h. diwezhañ tynnu’i ana(d)l ola’, marw
huanadenn b. -où ochenaid
lezel un h. hir gollwng ochenaid hir
huanadiñ be. ochneidio; anadlu'n drwm, tynnu ana(d)l hir
huch(ad) g., huchadenn b. -où bloedd, gwaedd
huchadeg b. -où gweiddi, bloeddio/ bloeddiadau (tyrfa)
huchal be. gweiddi, galw
h. a-bouez penn / a-bouez e benn / a-bouez he fenn bloeddio/gweiddi nerth ei geg/cheg/ben/phen, gweiddi ar dop ei (l)lais
h. d’ub. gweiddi/galw ar rn
hucher g. -ien gwaeddwr, bloeddiwr; galwr; gostegwr, tywysydd; beili, bwm (beili)
hucherezh g. gweiddi/bloeddio mawr, lleferydd; stŵr, mwstwr, twrw, dadwrdd, dwndwr
hud1 a. hud(ol)
ar wialenn h. y wialen/ffon hud
hud2 g. hud(oliaeth), cyfaredd, swyn, swyngyfaredd
hudal be. udo, oernadu; rhuo
hudour g. -ien dewin, dyn hysbys, swynwr
hudouriezh b. dewiniaeth, swyngyfaredd
hudur a. anllad, trythyll, anniwair; aflan, brwnt, bud(u)r, bawlyd, pyglyd; ffiaidd; aflednais, anweddus
un h. eo! mae’n warth(us)! mae’n gywilydd(us)!
hudurenn b. -ed slwt, sopen, hwch (ffig.)
hudurniezh b. anlladrwydd, trythyllwch; aflendid, bryntni, budreddi, mochyndra
hueg(an) g. -où tonsil
hugenn b. -où (bot.) eirinen
hugennoù skav eirin ysgaw
hugennoù ar gwez kelenn eirin y coed celyn
hugunod g. -où (yn ddirmygol) dilynwyr John Calvin c. 1532
humanite b. dynoliaeth
humbl/humpl a. gostyngedig, gwylaidd, isel (o ran anian ac ymarweddiad)
humenist g. -ed dyneiddiwr
humid a. llaith
hun g. -(i)où cwsg
dre/en e h. drwy/yn ei gwsg
hunan rhage. gw. unan
hunegan g. -ed pathew
hungareg g. Hwngareg
Hungaria e.lle Hwngari
Hungariad g. Hungariz Hwngariad, brodor o Hwngari
hunva g. -où (y)stafell gysgu (i nifer/ lawer)
hunvaleer g. -ien cerddwr yn ei gwsg
hunvre b., hunvreadenn b. -où breuddwyd
hunvreal be. breuddwydio
h. en ub./udb. breuddwydio am rn/rth
hunvreer g. -ien breuddwydiwr
hunvreüs a. breuddwydiol
hup g., hupenn b. -où cudyn, twffyn
huren b. -ed creÿr glas, crychydd
hurlink g. -où hunlle(f)
hurusin g. gw. heureuchin
huskellat gw. luskellat
hutenn b. -où caban, sied, sianti, cwt, cut
huzel/huzil g. huddygl